Hanes Cymru, a chenedl y Cymry, o'r cynoesoedd hyd at farwolaeth Llewelyn Ap Gruffydd : ynghyd a rhai cofiaint perthynol i'r amseroedd o'r pryd hynny i waered

Yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymroddodd ysgolheigion Ewropeaidd (clerigwyr yn bennaf) eu hamser i gofnodi hanes a diwylliant cenhedloedd bychain a difreintiedig. Yng nghyd-destun Cymru, Carnhuanawc yw'r enghraifft amlycaf. Fe’i hysbrydolwyd  yn bennaf gan Herder, athronydd Almaeneg, a fagodd enwogrwydd wrth ddadlau dros werth ac arwyddocâd diwylliannau bychain. Roedd y ddau’n rhannu’r un gred bod diwylliannau o’r fath yn cael eu gwarchod a’u cynnal gan haenau is, niferus, ond materol dlotach y gymdeithas. Ystyrir ‘Hanes Cymru’ fel prif gampwaith Carnhuanawc. Rhannwyd y gwaith yn bedwar cyfrol ar ddeg a chyhoeddwyd hwy rhwng 1836 a 1842. Rhaid nodi nad oedd gan Carnhuanawc afael gadarn ar ddyletswyddau’r hanesydd proffesiynol, serch hynny, ni fyddai gwaith cyfatebol i ‘Hanes Cymru’ yn ymddangos am rai blynyddoedd.