Chwareu-gan : drama yn null Shakespeare ar "Owain Glyndwr"


Dramodydd a newyddiadurwr nodedig oedd Beriah Gwynfe Evans. Ysgrifennodd lawer o ddramâu, a oedd fel rheol wedi eu selio ar ddigwyddiad neu ffigyrau hanesyddol. Gwobrwywyd ei ddrama ‘Owain Glyndŵr’ yn eisteddfod Llanberis, ac fe dorrodd tir newydd. Mae’n bosib dadlau i’r gwaith ysbrydoli symudiad yn ei faes yng Nghymru. Llwyfannwyd fersiwn newydd o’r ddrama yng Nghaernarfon ym 1911 ar gyfer arwisgiad Tywysog Cymru.