Llyfr Tonau Cynulleidfaol


Roedd John Roberts yn weinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd ac yn gerddor nodedig. Ystyrir ei gyhoeddiad ‘Llyfr Tonau Cynulleidfaol’ fel carreg filltir allweddol yn natblygiad canu cynulleidfaol yng Nghymru. Gweithiodd yn ddiwyd am chwe blynedd ar y gyfrol cyn iddi gael ei chyhoeddi ym 1859.