Cân o senn iw hên feistr Tobacco


Yn ystod y ddeunawfed ganrif, a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, argraffwyd baledi ar raddfa eang iawn gan y gweisg newydd yng Nghymru. Fe’i gwerthwyd i’r cyhoedd yn aml mewn ffeiri a marchnadoedd, lle y canwyd hwy gan eu gwerthwyr. Roedd cynnwys y faled  Gymreig yn medru amrywio. Ymdriniodd rhai â negeseuon crefyddol a moesol; adroddodd eraill newyddion cyfoes, megis troseddau lleol a chenedlaethol, terfysgoedd neu ddamweiniau diwydiannol; bu hanesion a chwedloniaeth yn destunau poblogaidd ar gyfer baledi hefyd. Chwaraeodd y faled rhan flaenllaw ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd baledi’n cael eu hargraffu ledled Cymru: mewn 96 o drefi a phentrefi. Prynwyd hwy yn eu miloedd, yn aml iawn gan haenau is y gymdeithas. Denwyd a recriwtiwyd darllenwyr Cymraeg newydd gan faledi oherwydd natur boblogaidd eu cynnwys. 'Cân o senn iw hên feistr Tobacco' oedd y faled cyntaf i'w gyhoeddi gan wasg swyddogol yng Nghymru. Fe'i cyhoeddwyd gan Wasg Isaac Carter yn Nhrefhedyn ym 1718. Trafoda’r faled natur anfoesol tybaco.