Baner yr arddangosfa - Exhibition header image

Llyfr Ffoto Maesygwernen

 

Llyfr ffoto ‘Simplico’ yw albwm Maesygwernen. Mae’n cynnwys 24 ffotograff sy'n gysylltiedig ag ymweliad Lloyd George â Neuadd Maesygwernen a Threforys, mis Awst 1918. Ceir hefyd yn yr albwm ffotograff adnabyddus o hen wraig mewn siôl a chapan sy'n cyflwyno tusw i Lloyd George.