Baner yr arddangosfa - Exhibition header image

Iwerddon

Yng Nghynhadledd Heddwch Paris dadleuai'r cynrychiolwyr Prydeinig o blaid hawl pobloedd i benderfynu drostynt eu hunain. Eto i gyd, fe welwyd digwyddiadau yn Iwerddon a oedd yn bwrw amheuaeth ar ddiffuantrwydd hynny. Yr oedd y rhyfel wedi troi Lloyd George yn fwy imperialaidd, a hefyd o dan bwysau'r Unoliaethwyr o blith ei gefnogwyr seneddol, gwelwyd difrawder yn ei agwedd tuag at hunanlywodraeth yn Iwerddon. Bu ei ymateb i dwf trais yn Iwerddon yn chwyrn ac o ddiwedd 1919 fe ganiatawyd recriwtio cyn-filwyr i "gadw trefn" yno, hwy oedd y "Black and Tans".

Ond yr oedd yn ymwybodol y byddai'n rhaid iddo negodi cytundeb yn y diwedd ac yn y trafodaethau hyn y gwelwyd ei alluoedd gwleidyddol. Trwy annog, bygwth a chyfrwystra fe lwyddodd i gael cytundeb yn Rhagfyr 1921; ac yn Nulyn fe adawyd y rhai oedd yn ei dderbyn ac yn ei erbyn i ymladd. Tynnwyd y milwyr Prydeinig allan ac am ryw bum mlynedd a deugain nid oedd llawer o sôn am Iwerddon yng ngwleidyddiaeth Prydain, ond ar gost wleidyddol ddrud i Lloyd George ei hun a hynny oddi wrth y dde a'r chwith.