Baner yr arddangosfa - Exhibition header image

David Lloyd George, Gweinidog dros Arfau

O ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ceisiodd David Lloyd George, fel Canghellor y Trysorlys, sicrhau fod digon o arian yng nghoffrau'r wlad i ymladd y rhyfel yn effeithiol. Yn dilyn ei brofiadau fel Llywydd y Bwrdd Masnach gweithiodd yn ddiwyd i geisio cyflwyno newidiadau ym myd diwydiant a fyddai'n cyflenwi anghenion y lluoedd arfog yn fwy effeithiol. Erbyn dyfodiad llywodraeth glymblaid 1915 yr oedd Lloyd George wedi ymdrechu i greu Adran Arfau. Ym mis Mai 1915 cafodd ei apwyntio yn Weinidog dros Arfau.

Yn ei swydd fel Gweinidog Arfau roedd gan Lloyd George y pŵer i fynnu'r newidiadau angenrheidiol o fewn diwydiant er mwyn sicrhau llwyddiant yn y Rhyfel. Rhoddwyd safle newydd i undebau llafur mewn prosesau trafod a gweithredu ac fe fachodd Lloyd George ar y cyfle i wella amodau gweithwyr o ran iechyd a diogelwch a chyflwr eu tai. Sylwodd hefyd ar botensial menywod o fewn y gweithlu. Chwyldrowyd safle menywod o fewn bywyd cyhoeddus o ganlyniad i'w gwaith mewn ffatrïoedd arfau, gan sicrhau'r bleidlais i rai ohonynt yn dilyn y Rhyfel.

Fel Gweinidog Arfau llwyddiannus, yr oedd Lloyd George yn rhwystredig gydag arafwch ac aneffeithiolrwydd ei Lywodraeth ei hun. Nid oedd ef a'i Brif Weinidog Asquith yn cydweld ar y mater o orfodaeth filwrol. Cefnogai Lloyd George y polisi yn gyhoeddus ac fe gryfhawyd ei safle o fewn y cabinet pan fu'n rhaid i Asquith gyflwyno mesur gorfodaeth ar ddechrau 1916. Gwanychu'n bellach a wnaeth safle Asquith fel Prif Weinidog wedi i'r Llywodraeth gael ei feirniadu hallt am ei ymateb i Wrthryfel y Pasg gan genedlaetholwyr yn Iwerddon. Penderfynwyd saethu pedwar ar ddeg o'i arweinwyr. Wedi boddi'r Arglwydd Kitchener symudodd Lloyd George i'r Swyddfa Ryfel ym mis Gorffennaf 1916 a roes iddo safle cryfach byth i herio'r Prif Weinidog.