Baner yr arddangosfa - Exhibition header image

Cyllideb y Bobl a'r Wladwriaeth Les

Wrth i'r Rhyddfrydwr geisio ffurfio cabinet ar ddiwedd 1905 mynnwyd swydd i David Lloyd George, ac fe'i hapwyntiwyd yn Llywydd y Bwrdd Masnach. Cadarnhawyd ei safle yn y cabinet gan fuddugoliaeth ysgubol y Rhyddfrydwyr yn etholiad Ionawr 1906. Swydd gymharol ddi-nod oedd un y Llywydd hyd nes i Lloyd George ei derbyn a gweithio'n ddiflino ynddi. Yn Ebrill 1908 fe gafodd ei gyfle mawr i weithredu ei weledigaeth pan apwyntiwyd ef gan Asquith i swydd y Canghellor.

Ffrwyth llafur rhywun arall a gyflwynodd gyntaf i'r Tŷ, sef y Mesur Pensiwn. I raddau helaeth gwaith Asquith oedd hwn. Er hynny enw Lloyd George a gysylltwyd ag ef yn gyffredinol. Gyda Chyllideb 1909, "Cyllideb y Bobl", y gwelwn feddwl Lloyd George ei hun ar waith. Yr oedd mor ddadleuol fel y gwrthodai prif weision sifil y Trysorlys ei gynorthwyo, a rhaid oedd iddo ddibynnu ar gefnogaeth eraill.

Yr oedd y gyllideb yn un i ariannu rhyfel, meddai, rhyfel yn erbyn tlodi ac angen. Byddai'n cwrdd â'r gost drwy godi trethi'r dosbarth uwch ariannog: arweiniodd hyn at frwydr arall i basio'r gyllideb ac anghydweld gyda Thŷ’r Arglwyddi. Bu trafod ar y gyllideb am saithdeg dau o ddiwrnodau senedd yn Nhŷ’r Cyffredin, cafwyd 554 pleidlais a bu'n rhaid hepgor gwyliau'r haf. Yn y diwedd fe'i gwrthodwyd gan Dŷ’r Arglwyddi ac fe gynhaliwyd etholiad cyffredinol ar unwaith. Fe basiwyd Cyllideb 1909 ym mis Ebrill 1910.

Yn dilyn Cyllideb 1909 parhaodd David Lloyd George i ddatblygu polisïau lles cymdeithasol. Yn 1911 fe gyflwynodd y Mesur Yswiriant Cenedlaethol er mwyn sefydlu cynlluniau yswiriant iechyd a diweithdra gorfodol. Unwaith eto fe wynebodd wrthwynebiad ffyrnig oddi wrth yr asgell dde, rhai ar y chwith, ac oddi wrth sawl grŵp â diddordeb yn y maes. Cafwyd protestiadau yn erbyn yr egwyddor mai'r cyflogwr oedd a'r cyfrifoldeb i ludo'r stampiau yswiriant ar y cerdyn yswiriant. Daeth yr ymgyrch yma i'w hanterth gyda rali'r Meistresi a'u Morwynion yn Neuadd Albert. Wedi gweiddi sloganau amrywiol, gan gynnwys "Taffy is a Welshman, Taffy is a thief!", daeth y noson i ben gyda Lady Besart yn cyhoeddi, "England... never did nor never shall lie at the proud foot of a conqueror." Pasiwyd y mesur.