Symud i'r prif gynnwys

21.04.2023

Heddiw, cyhoeddodd Ashok Ahir, Llywydd a Chadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, benodiad Gronw Percy fel Trysorydd nesaf y Llyfrgell.

Cychwynnodd Gronw ar ei ddyletswyddau ar 1 Ebrill 2023 am gyfnod o bedair blynedd.

Mae gan Fwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell 15 o aelodau, gyda 8 o'r aelodau’n cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru a 7 gan y Llyfrgell Genedlaethol. Bydd yn ymuno â’r Llywydd a’r Is-lywydd fel un o dri swyddog y Bwrdd.

Rôl y Trysorydd yw bod yn ymddiriedolwr arweiniol ar holl faterion yn ymwneud ag arian y Llyfrgell a’i chyfrifon, a’r Trysorydd sydd â chyfrifoldeb am gyflwyno’r Cyfrifon Blynyddol i’r Bwrdd.

Cyfrifoldeb y Bwrdd yw sicrhau bod y Llyfrgell yn cyflawni’i hamcanion statudol, yn cynnal safonau llywodraethiant uchel, ac yn pennu cyfeiriad strategol cyffredinol y Llyfrgell.

Bywgraffiad Gronw Percy

Yn raddedig mewn economeg o Brifysgol Caerdydd, mae Gronw yn gyfrifydd siartredig gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn cynghori a chyflawni ystod eang o brosiectau. Mae’n brofiadol ym meysydd codi arian, cynllunio busnes, gwerthuso buddsoddi, negodi masnachol, PPP a mentrau strategol eraill.

Mae Gronw ar hyn o bryd yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cyllid i Orbis Education and Care UK, ond cyn hynny, roedd yn brif swyddog cyllid i Open Genius Ltd, gyda chyfrifoldeb dros gyllid, codi arian ac adrodd ar ddata gweithredol. Mae hefyd wedi gweithio fel cyfarwyddwr datblygu cyllid i gwmni Castleoak, gyda chyfrifoldeb dros gyllid a chyllido.

Treuliodd ddeng mlynedd fel Cyfarwyddwyr Cysylltiol gyda PwC yng Nghaerdydd a Llundain fel aelod allweddol o fusnes Llywodraeth ac Isadeiledd PwC yn arwain tîm Cymru. Yno roedd ganddo gyfrifoldeb dros nifer o fandadau graddfa eang yn cynnwys allanoli, masnachfreintiau, partneriaethau strategol, codi arian, comisiynu’n seiliedig ar allbynnau ac ymgynghori strategol.

Mae’n aelod o Bwyllgor Archwilio Canolfan Mileniwm Cymru, ac yn Ymgynghorydd Bwrdd i Drop Task, cwmni meddalwedd wedi ei leoli ym Mae Caerdydd, a Right Now Digital, busnes rhaglenni ffôn clyfar sy’n ffocysu ar y sector chwaraeon a hamdden.

Mae’n byw yn Llanilltud Faerdref ger Pontypridd, ac mae’n rhugl yn y Gymraeg.

Dywedodd Ashok Ahir, Llywydd a Chadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae’r Llyfrgell yn falch o fod wedi penodi unigolyn ardderchog fel Trysorydd ac Ymddiriedolwr i wasanaethu ar Fwrdd y Llyfrgell. Bydd Gronw yn dod ag ystod eang o brofiadau a sgiliau i gyfoethogi aelodaeth y Bwrdd ac edrychaf ymlaen yn fawr iawn i gydweithio gydag ef. Diolch hefyd i Lee Yale-Helms, y Trysorydd blaenorol,  am wasanaethu’r Bwrdd yn rhagorol yn ystod ei gyfnod fel Trysorydd”

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd:

“Rwy’n croesawu’r penodiad arbennig yma ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn i groesawu Gronw i’r Llyfrgell. Ar yr un pryd, dymunaf ddiolch i’r Trysorydd blaenorol, Lee Yale-Helms am ei gefnogaeth nid yn unig i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, ond i minnau’n bersonol ar adeg heriol i’r Llyfrgell”.

--DIWEDD--

** This press release is also available in English **

Am fwy o wybodaeth a lluniau, cysylltwch â: Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07855 362206

NODIADAU I OLYGYDDION

Darllenwch ragor am Fwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’i haelodaeth ar ein gwefan

Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o lyfrgelloedd mawr y byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.

Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.

Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.

Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol

  • 7,000,000 troedfedd o ffilm
  • 250,000 awr o fideo
  • 6,000,000 o lyfrau a phapurau newydd
  • 40,000 llawysgrif
  • 1,500,000 map
  • 150,000 awr o sain
  • 950,000 ffotograff
  • 60,000 gwaith celf
  • 1,900 metr ciwb o archifau

Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein a chewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar ein gwefan.