Symud i'r prif gynnwys

05.04.2023

Mae Deiseb Heddwch canmlwydd oed a lofnodwyd gan bron i 400,000 o fenywod Cymru wedi cyrraedd yn ôl i Gymru heddiw gyda chroeso emosiynol. Roedd hyn yn cyd-fynd gyda chyhoeddiad cefnogaeth ariannol o bron i £250,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, fydd yn golygu bod y stori’n dod yn fyw i bobl Cymru.

Rhoddwyd £249,262 i Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol er mwyn cefnogi Project Deiseb Heddwch Menywod Cymru. Bydd Academi Heddwch Cymru a’r WCIA yn rheoli’r prosiect ar ran Partneriaeth y Ddeiseb Heddwch. Bydd y cyllid yn sicrhau bod y Bartneriaeth yn ymwneud gyda chymunedau Cymru er mwyn rhannu a dathlu’r stori yn ogystal â galluogi pobl i chwarae rhan yn yr ymdrechion trawsysgrifio fydd yn cefnogi gwaith Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cyrhaeddodd y gist dderw a’r ddeiseb Lyfrgell Genedlaethol Cymru gan dderbyn croeso cynnes gan y bobl sydd ynghlwm â Phartneriaeth y Ddeiseb Heddwch, sydd wedi gweithio ers sawl blwyddyn i’w dychwelyd adref. Hon yw’r cam cyntaf tuag at wneud y ddeiseb yn hygyrch i bobl Cymru. Dros y flwyddyn nesaf, bydd y ddeiseb yn cael ei chatalogio, ei digido, a’i hagor i’r cyhoedd i dorfoli (crowdsource) ei thrawsgrifiad. Ynghyd â hyn bydd yn cael ei harddangos yn Amgueddfa Cymru - Sain Ffagan, Amgueddfa Wrecsam a’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Yr ymgyrch ym 1923 a chyflwyniad y ddeiseb i’r UDA

Ym 1923 gydag erchyllterau'r Rhyfel Byd Cyntaf wedi ysgogi cenhedlaeth gyfan i sefyll yn erbyn rhyfel, trefnodd menywod Cymru ymgyrch dros heddwch byd-eang. Yng nghynhadledd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth, cynigiwyd y dylid lansio ymgyrch i sicrhau bod menywod UDA yn clywed lleisiau menywod Cymru a chydweithio dros fyd heb ryfel.

Llofnododd cyfanswm o 390,296 o fenywod y ddeiseb. O fewn saith mis, roedd Annie Hughes-Griffiths, Mary Ellis, Elined Prys a Gladys Thomas wedi cyrraedd UDA gyda chist dderw ac ynddi ddeiseb a oedd, yn ôl y sôn, yn 7 milltir o hyd. Yn Efrog Newydd fe’i cyflwynwyd i fenywod America gan ddirprwyaeth o fenywod o Gymru. Ers hynny, mae'r gist wedi'i diogelu a’i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Hanes America yn Washington DC.

Y ddeiseb heddwch yn dod adref a’r cynlluniau am y flwyddyn

Oddi ar 2019, mae Pwyllgor Partneriaeth ‘Hawlio Heddwch’ wedi bod yn cydweithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru i fenthyg y gist a’r deisebau. Arweiniodd y trafodaethau dilynol gydag Amgueddfa Genedlaethol Hanes America at drosglwyddo’r gist i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Wedi cyrraedd Aberystwyth bydd staff arbenigol y Llyfrgell Genedlaethol yn digido ei chynnwys. Bydd hyn yn ei dro yn galluogi’r cyhoedd i chwilio’r Ddeiseb Heddwch i ddarganfod pwy yn union oedd y menywod hyn o Gymru a aeth i chwilio am heddwch. Gallant gymryd rhan yn y broses drwy drawsysgrifio enwau’r ddeiseb gan greu adnodd sydd yn hawdd i’w ddefnyddio a’i chwilio am y tro cyntaf.

Meddai Suzie Ventris-Field, Prif Weithredwr WCIA:

“Mae hi’n fraint o’r mwyaf i’r WCIA i fod yn rhan o Bartneriaeth y Ddeiseb Heddwch ac rydym yn ddiolchgar i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am y gefnogaeth fydd yn dod â’r stori hon yn fyw. Bydd dathliadau’r canmlwyddiant a’r gwaith ymgysylltu a ariennir yn galluogi’r Bartneriaeth i ddechrau sgwrs gyda chymunedau Cymru am sut all Cymru ddatblygu fel Cenedl Heddwch gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bobl sy’n anelu at gael heddwch.”

Meddai Mererid Hopwood, Cadeirydd y Bartneriaeth:

“Yn helbul ein byd ni heddiw, mae’n fraint aruthrol cofio bod menywod Cymru, ganrif yn ôl, wedi bod yn ddigon eofn i fynd ati i geisio dod â heddwch i’r ddaear gyfan. Ein gobaith ni yw y bydd yr ysbryd hwn o gydweithio rhyngwladol er mwyn creu byd teg a di-drais yn dod o hyd i leisiau newydd drwy’r prosiect hwn.”

Meddai Andrew White, Prif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol:

“Bum mlynedd cyn iddynt ennill y bleidlais ym 1928, estynnodd 400,000 o fenywod Cymru law ar draws yr Iwerydd drwy’r ddeiseb hon. Roedd yn symbol hanesyddol o chwaeroliaeth a chyd-sefyll yn wyneb erchyllterau rhyfel. Ein braint sylweddol ni yw rhoddi bron i £250,000 i ddod â’r ddeiseb a’r gist y cawsant eu cario ynddi yn ôl i Gymru ar amser pan, yn anffodus, mae cysgod rhyfel yn bygwth Ewrop a’r angen am heddwch a solidariaeth yn fwy nac erioed.”  

Meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:

“Rydw i wrth fy modd bod Deiseb Heddwch 1923 yn dychwelyd i Gymru gan mlynedd ar ôl iddi gael ei anfon i’r UDA. Hoffwn i ddiolch i Sefydliad y Smithsoniad am haelioni y rhodd hwn i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r weithred o gasglu bron i 400,000 o lofnodion gan ferched dros gymru mewn ymgyrch dros heddwch yn ein ysbrydoli hyd heddiw. Gobeithiaf y bydd dychwelyd y ddeiseb i Gymru’n cymell cenhedlaeth newydd o eiriolwyr dros heddwch.”

--DIWEDD--

** This press release is also available in English **

Am fwy o wybodaeth a lluniau, cysylltwch â: Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru  
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07855 362206

Nodiadau i Olygyddion
  • Ar Fai 23 1923, lansiwyd ‘Yr Apêl’ ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ystod Cynhadledd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru  
  • Aeth 2 swyddog cyflogedig a 400 o drefnwyr lleol ati i drefnu’r ddeiseb a chasglu enwau, Roedd y trefnwyr hyn yn fenywod a dynion o bob rhan o Gymru ac o bob math o gefndiroedd cymdeithasol, gwleidyddol, crefyddol, ieithyddol.
  • Erbyn Rhagfyr 1923 roedd Mary Ellis yn hwylio i America i fraenaru’r tir ar gyfer derbyn y ddeiseb
  • Bu’n cydweithio gyda menywod disglair a blaengar fel Carrie Chapman Catt, Ruth Morgan a Harriet Burton Lees Laidlaw
  • Erbyn Chwefror 1924 roedd Annie Hughes Griffiths (gyda’i chyfeilles Gladys Thomas yn gwmni iddi) ac Elined Prys yn croesi’r Iwerydd i ymuno â Mary Ellis, gyda’r gist yn cynnwys 390,296 o lofnodion.
  • Cafwyd croeso brwdfrydig i’r ddirprwyaeth o Gymru a chinio mawreddog yn y Biltmore Hotel, Efrog Newydd. Dyma oedd dechrau ar ymweliad rhyfeddol o brysur a welodd deithio ac annerch cynulleidfaoedd yn ddiflino.
  • Ymhlith y llefydd yr ymwelwyd â hwy roedd Chicago, Salt Lake City, San Francisco, Los Angeles, Utica a hefyd Washington a’r Tŷ Gwyn lle’u croesawyd gan yr Arlywydd Calvin Coolidge  
  • Yn ystod prosiect Cymru’n Cofio (2014–18) yn y Deml Heddwch ac Iechyd Caerdydd daethpwyd o hyd i blac yn coffáu’r ddeiseb (y Memorial fel y’i gelwid, a wnaethpwyd o ledr hardd o Foroco a llythrennau aur) a dyma ddechrau ar y cwestiynu: Beth? Pwy? Pam?
  • Ysgogodd hyn sefydlu grŵp Heddwch Nain/Mam-gu yng Nghymru (ac yna yn yr UDA) a Phartneriaeth yn cynnwys:
    • Academi Heddwch Cymru  
    • Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
    • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
    • Amgueddfa Cymru
    • Heddwch Nain/Mam-gu – Cymru
    • Heddwch Nain/Mam-gu – UDA
    • Archif Menywod Cymru
    • Llywodraeth Cymru
    • Elin Jones, Llywydd y Senedd
  • Cadeirydd Academi Heddwch Cymru yw’r Gwir Barchedig ac Anrhydeddus Dr. Rowan Williams a llofnodwyr ei Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yw holl brifysgolion Cymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Mae aelodaeth y grŵp yn cynnwys Urdd Gobaith Cymru, Race Council Cymru, Swyddfa Cenedlaethau’r Dyfodol a chynrychiolwyr y mudiadau heddwch yng Nghymru.
  • Mae’r Bartneriaeth wedi gweithio’n egnïol dros y tair blynedd diwethaf i geisio sicrhau ffordd o ddigido cynnwys y Ddeiseb wreiddiol fel ein bod ni heddiw yn gallu dysgu am y menywod o Gymru a fynnai weld byd di-ryfel ac fel ein bod ni’n gallu cael ein hysbrydoli i ailgydio yn y gwaith pwysig hwnnw.

 
AM BROSIECT DEISEB HEDDWCH MENYWOD CYMRU

Ein Nod:

Ein nod yw ymwneud gyda 10,000 o bobl a’u hannog i ddarganfod, rhannu a dysgu am rôl menywod yn nhreftadaeth heddwch Cymru. Byddwn yn gwneud hyn trwy rannu a datblygu gwybodaeth ar y cyd o Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru o 1923 - stori sydd dal heb ei hadrodd yn llwyr. Byddwn yn gwahodd pobl i gydweithio ar ymdrech genedlaethol i drawsysgrifio’r 390,296 llofnod sydd ar y ddeiseb, gan alluogi pawb i gysylltu gyda’r Ddeiseb ar lefel bersonol a chyfrannu at ei hetifeddiaeth. Byddwn hefyd yn cysylltu'r stori gyda rhyfeloedd heddiw a barn pobl am sicrhau heddwch, gan ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ymgyrchwyr heddwch fydd yn gweithio tuag at weledigaeth o Gymru fel Cenedl Heddwch ac i fyd heb ryfel.

Amcanion y Prosiect:

  • Nodi canmlwyddiant Deiseb Heddwch Menywod Cymru yn 2023/24 gan weithio gyda phartneriaid Cyreig ac yn rhyngwladol.
  • Ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ymgyrchwyr heddwch all weithio tuag at weledigaeth o Gymru fel Cenedl Heddwch mewn byd heb ryfel.
  • I ddenu ymwneud a chefnogaeth ar raddfa fawr, i waith torfol o drawsysgrifio bydd yn rhoi mynediad rhyngwladol at y Ddeiseb Heddwch fel rhan allweddol o dreftadaeth Cymru ar gyfer cenedlaethau nawr ac yn y dyfodol.
  • I gefnogi Partneriaeth y Ddeiseb Heddwch i ddatblygu a delifro digwyddiadau a gweithgareddau diwylliannol a hanesyddol fydd yn ddwyieithog, yn fywiog, ac yn denu cymunedau amrywiol.
  • I gefnogi datblygiad deunyddiau addysgol ac i annog ysgolion, grwpiau pobl ifanc a grwpiau cymunedol i gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau.

Am Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru

Gan ddefnyddio arian a godwyd gan y Loteri Genedlaethol, rydym yn ysbrydoli, arwain a chyllido treftadaeth y DU er mwyn creu newid positif a hirdymor ar gyfer pobl a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol.

https://www.heritagefund.org.uk/in-your-area/wales

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae mwy na £30 miliwn yn mynd at achosion da bob wythnos.

Dilynwch @HeritageFundCYM ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddio #NationalLotteryHeritageFund.