Symud i'r prif gynnwys

Y bardd Hedd Wyn i gael ei goffau mewn sioe fideo arbennig wedi ei daflunio ar furiau Llyfrgell Genedlaethol Cymru

05.10.2017

Bydd prosiect fideo unigryw sy'n coffáu canmlwyddiant marwolaeth bardd y Rhyfel Mawr Ellis Humphrey Evans, yn cael ei daflunio ar furiau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ystod wythnos y cofio ar ôl derbyn cefnogaeth gan ScottishPower Foundation.

Bu i’r bugail ifanc a adnabuir wrth ei enw barddol - Hedd Wyn gael ei ladd ar ddiwrnod cyntaf  Brwydr Passchendaele yn 1917, ddiwrnodau ar ôl cael ei anfon i'r rheng flaen fel conscript.

Bu i gerdd Yr Arwr yr oedd y milwr wedi ei gorffen ychydig cyn ei farwolaeth, ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1917.

Pan gyhoeddodd beirniaid cystadleuaeth Y Gadair, yr anrhydedd pennaf i fardd yng Nghymru, enw'r enillydd, safodd neb. Bu’n rhaid  gofyn dair gwaith iddo ddod ymlaen i gymryd ei sedd anrhydeddus, ond ni chawsant ateb.

Yn y diwedd, bu'n rhaid dweud wrth y gynulleidfa a oedd yn cynnwys Prif Weinidog a phensaer y consesiwn, David Lloyd George, fod Hedd Wyn wedi marw yn y frwydr ar feysydd Flanders cyn gallu cyflawni uchelgais ei fywyd.

Gorchuddiwyd y gadair a lliain du, ac o'r adeg honno ymlaen byddai'r Eisteddfod yn cael ei galw yn “Eisteddfod y Gadair Ddu”. Yn ystod yr wythnos yn dilyn yr Eisteddfod, anfonwyd y gadair at deulu Hedd Wyn ar eu fferm, Yr Ysgwrn, yn Nhrawsfynydd, Eryri lle mae'n dal i gael ei harddangos heddiw,

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sy'n cynnal fferm teulu Hedd Wyn fel amgueddfa, yn geidwaid i gasgliadau helaeth ac wedi cydweithio mewn rhaglen estyn allan uchelgeisiol a phellgyrhaeddol drwy gydol 2017 gan ddod â stori y bardd a’i waith yn fyw i genhedlaeth newydd.

Mae eu gwaith, gyda chymorth ScottishPower Foundation, wedi cynnwys cyflwyno 26 o weithdai i dros 800 o blant ac oedolion ysgol, a dosbarthu 3000 o gopïau o lyfryn a grëwyd yn arbennig ar etifeddiaeth Hedd Wyn i ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru.

Bydd y fenter yn dod i ben ar 9 Tachwedd - dau ddiwrnod cyn Dydd y Cofio - pan fydd gosodiad fideo yn cynnwys plant o bentref brodorol Hedd Wyn yn cael ei daflunio ar flaen adeilad eiconig Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Bydd disgyblion Ysgol Bro Hedd Wyn yn darllen ei waith enwocaf, Rhyfel, ar gyfer y prosiect sydd wedi'i gomisiynu'n arbennig gan ScottishPower Foundation.

Mae llinellau o'r gerdd sy'n sôn am ddyfodol rhyfel wedi cael eu cydblethu gyda ffilm o gartref Hedd Wyn, Yr Ysgwrn, a delweddau yn ymwneud â'r bardd a'r profiad Cymreig ehangach yn y Rhyfel Mawr a ddarparwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Dywedodd Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

"Bydd y digwyddiad yn benllanw ar raglen wych o waith estyn allan. Rydym yn ddiolchgar iawn i ScottishPower Foundation am ariannu'r rhaglen yn hael ac i Mr Gerald Williams, nai Hedd Wyn ac Yr Ysgwrn am eu cefnogaeth barhaus."

Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

"Ym mis Medi 1917, daeth Hedd Wyn yn symbol o genhedlaeth o Gymry a laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ers hynny, mae ei gartref teuluol yn Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, wedi bod yn gofeb tawel i'r genhedlaeth hon, gan barhau i arwain ar negeseuon heddwch, rhyfel, diwylliant a chymdeithas.

"Yn ystod blwyddyn canmlwyddiant marwolaeth Hedd Wyn, bu'n fraint i ni weithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru a ScottishPower Foundation, gan ddefnyddio ein casgliadau i ddod â stori a etifeddiaeth Hedd Wyn yn fyw i genhedlaeth newydd o bobl ifanc, a fydd yn warchodwyr ein treftadaeth a'n heddwch yn y dyfodol ".

Sefydlwyd Sefydliad ScottishPower ym mis Mai 2013 ac eleni mae wedi rhoi record o £1.8m i achosion da ledled y DU.

Meddai Ann McKechin, Ymddiriedolwr ScottishPower Foundation:

"Mae hanes Hedd Wyn, ei farddoniaeth, a'i farwolaeth drasig cyn iddo allu hawlio ei anrhydedd fel enillydd y Gadair Farddol yn Eisteddfod 1917 yn etifeddiaeth ddiwylliannol bwysig, nid yn unig  i bobl o Gymru, ond i ni i gyd.

"Dau o amcanion allweddol Sefydliad ScottishPower yw cefnogi addysg yn y gymuned a hefyd hyrwyddo treftadaeth a diwylliant. Mae prosiect estyn allan Hedd Wyn yn cyd-fynd â'r ddau uchelgais hwn yn berffaith ac mae ScottishPower Foundation yn falch o gefnogi'r fenter hon 100 mlynedd ers marwolaeth Hedd Wyn, ac i gefnogi'r gosodiad fideo hwn,gan obeithio y bydd ychwanegiad teilwng i ddathlu ei waith."

Nodiadau i Olygyddion

ScottishPower Foundation

Mae ScottishPower Foundation yn elusen Albanaidd gofrestredig (SC043862) a chwmni cyfyngedig trwy warant (SC445116). Nod y Sefydliad yw gwneud cyfraniad sylweddol a pharhaol i'r gymdeithas a gwella ansawdd bywyd mewn cymunedau lleol. Mae'n darparu cyllid i elusennau cofrestredig a sefydliadau di-elw at y dibenion canlynol: hyrwyddo addysg; hyrwyddo amddiffyniad amgylcheddol; hyrwyddo'r celfyddydau, treftadaeth, diwylliant neu wyddoniaeth; atal neu rwystro tlodi a gwarchod y rhai sydd mewn angen oherwydd anabledd neu anfantais arall; hyrwyddo dinasyddiaeth a datblygu cymunedol.

Cynllun Estyn Allan Hedd Wyn

Mae rhaglen Estyn Allan Hedd Wyn wedi bod yn brosiect blwyddyn a arweinir gan Wasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn destun o themâu o hanes Hedd Wyn, stori drasig o fuddugoliaeth a cholled sydd wedi ysbrydoli awduron, beirdd a chynhyrchwyr ffilm ac wedi dod yn symbol o genhedlaeth dalentog a laddwyd yn Y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’n cynnwys eitemau o gasgliad helaeth y llyfrgell; mynd ag eitemau unigryw sy'n ymwneud â bywyd Hedd Wyn ar daith o amgylch yr Eisteddfodau yn ogystal â chreu adnoddau addysgol ar gyfer pobl ifanc a theuluoedd.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth i gynnal 26 o weithdai ar fywyd a gwaith Hedd Wyn a fynychwyd gan dros 800 o blant ac oedolion.