Llyfrgell… a mwy!
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn paratoi at y Nadolig trwy lansio siop ar-lein newydd sbon; fydd yn cynnwys nwyddau cartref, gemwaith, printiadau, llyfrau a chardiau: llawer iawn ohonynt yn unigryw ac wedi eu hysbrydoli gan gasgliadau’r Llyfrgell. Yn ogystal ag eitemau brand y Llyfrgell, fe welwch emwaith ‘Cyfrinachau y Mabinogi’ gan Menna Lloyd, print ‘Big Surf at Llangrannog’ gan Ian Phillips a gwaith a gomisiynwyd yn arbennig sef cynllun gan Lizzie Spikes sy’n portreadu’r Llyfrgell ar adeg y Nadolig; sydd i’w weld ar gardiau cyfarch.
“Roeddwn wrth fy modd o’r cyfle hwn i greu gwaith yn arbennig i’r Llyfrgell Genedlaethol. Rwy’n hynod falch hefyd o’r cyfle i gyflenwi’r siop (ac ar-lein) â’m gwaith sydd wedi ei ysbrydoli gan fy ngharaid i tuag at Geredigion a thirwedd unigryw Cymru, ei llên, â’i phobl. Mae’n fraint i mi gael gweld fy ngwaith ochr yn ochr ag artistiaid eraill o Gymru pan fyddaf yn ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol” meddai Lizzie Spikes, Driftwood Designs.
Dywedodd Elaine Turnpenney, Rheolwr y Siop:
“Mae’n gyfnod cyffrous iawn i ni yma yn y Llyfrgell wrth i ni lansio ein Siop ar-lein. Dyma’n cyfle i ni rannu ein cynnyrch ymhlith cynulleidfa ehangach; a hynny yn ei dro yn codi ymwybyddiaeth o’r Llyfrgell; ei gwaith a’i chasgliadau.”
Os ydych chi’n hoffi beth sydd i’w weld ar-lein, dewch draw i weld yr ystod lawn o nwyddau yn ystod ein noson siopa Nadolig hwyr; nos Iau, 3 Rhagfyr. Bydd ymweliad gan Siôn Corn ac hefyd bydd côr staff y Llyfrgell yn perfformio’n fyw ar y noson. Dewch i fwynhau noson o gymdeithasu yn y Llyfrgell gyda gwydraid o wîn tymhorol a mins pei!<
Gwybodaeth bellach
01970 632534 neu post@llgc.org.uk
Nodiadau i’r golygydd
Siop ar-lein
Rheolwr y Siop:
Elaine.turnpenney@llgc.org.uk
01970 632 540
Dydd Iau, 3 Rhagfyr
9:00am – 7:30pm Siop a Caffi Pen Dinas ar agor
5:00pm – 7:00pm Groto Siôn Corn - £2 y pen
6:30pm – 7:30pm Perfformad byw gan ‘Côr y Gen’