Lle aeth pawb?
Oeddech chi yn Eisteddfod Hwlffordd 1972 – neu oedd eich rhieni?
Wrth gyfrannu miloedd o ddelweddau i brosiect Europeana Libraries fe ddaeth staff y Llyfrgell Genedlaethol ar draws ffotograffau o’r eisteddfod yma union deugain mlynedd yn ôl.
Meddai Douglas Jones, Rheolwr Rhaglen Ddigido Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
‘Wrth baratoi’r casgliad yma ar gyfer y prosiect darganfuwyd set o oddeutu 500 o ffotograffau oedd heb eu catalogio o Eisteddfod Genedlaethol Hwlffordd yn 1972.’
Mae’r darganfyddiad cyffrous yma yn cynnwys ffotograffau o Carwyn James, Meic Stevens, y prif seremonïau, cynhyrchiad Y Theatr Ifanc o’r ddrama ‘Y Rhai a Lwydda’ a’r cyngerdd roc ‘Gwallt yn y Gwynt’. Mae’r set hefyd yn cynnwys nifer o ffotograffau o’r cystadlu ac o fwrlwm y maes.
‘Pedwardeg mlynedd ers i’r lluniau yma gweld golau dydd diwethaf mae’r Llyfrgell, ar y cyd gyda Casgliad y Werin, angen cymorth pobl Cymru i adnabod rhai o’r unigolion a’r digwyddiadau yn y lluniau yma – ac felly rydym wedi penderfynu gosod ugain llun ar wefan Casgliad y Werin er mwyn i’r cyhoedd fedru gadael eu sylwadau’ Ychwanegodd Douglas Jones.
Gydag wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn agosáu tybed a allwch chi ein helpu? A ydych chi yn adnabod rhywun sydd yn un o’r lluniau yma? Ydych chi’n gwybod hanes y cystadlaethau wnaeth Geoff Charles eu tynnu? A oeddech, fel John Pierce Jones a Mei Jones, yn rhan o’r cynhyrchiad o ‘Y Rhai a Lwydda’, neu a oeddech, fel Michael Povey ifanc, yn un o’r gynulleidfa yn y cyngerdd ‘Gwallt yn y Gwynt’? Os allwch chi ein helpu ac am rannu eich atgofion ewch draw i wefan Casgliad y Werin a gadewch sylw!
Mae’r ffotos am fod yn rhan o broject Europeana Libraries, prosiect pellgyrhaeddol sydd am greu mynediad di-dâl i 5 miliwn o eitemau digidol o 19 o brif lyfrgelloedd ymchwil Ewrop trwy wefannau'r Llyfrgell Ewropeaidd a Europeana. Bwriad y prosiect yma yw gosod y sylfaen i greu un porth at eitemau digidol di-dâl o bob un o lyfrgelloedd ymchwil Ewrop. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cyfrannu dros chwarter miliwn o eitemau digidol i’r prosiect, yn ei phlith dros 120,000 o ddelweddau o gasgliad ffotograffig Geoff Charles.
Gwybodaeth bellach:
Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg LLGC 01970 632534 post@llgc.org.uk