Gwaith Celf Luned Rhys Parri a disgyblion Ysgol Dafydd Llwyd, y Drenewydd yn LlGC
O hyn tan ddiwedd Ebrill, bydd coridor Hafan yn y Llyfrgell Genedlaethol yn llawn o waith celf dau- a thri-dimensiwn gan ddisgyblion Ysgol Dafydd Llwyd, y Drenewydd, Powys. Mae’r gwaith i gyd yn seiliedig ar gasgliad hynod y Llyfrgell o ffotograffau’r diweddar Geoff Charles, yn enwedig y lluniau bythgofiadwy a dynnodd o drigolion Capel Celyn yng Nghwm Tryweryn, pan orfodwyd hwy i adael eu cartrefi yn y chwedegau.
Cymharol Seisnig yw cefndir teuluol llawer o’r plant yn Ysgol Dafydd Llwyd. Drwy’r prosiect hwn y daethant i wybod gyntaf am natur a hanes y gymdeithas oedd yma yng nghanolbarth Cymru, mor ddiweddar â chwedegau’r ganrif ddiwethaf.
I gyd-fynd â’r arddangosfa, mae fideo rhagorol wedi ei baratoi gan Meic Jones, sy’n dangos y plant wrth eu gwaith dan arweiniad yr artist Luned Rhys Parri. Sylwir bod y darnau o frethyn, hyd yn oed, a ddefnyddiwyd i wisgo’r ffigurau yng ngwaith y plant yn efelychu’r dillad a wisgir gan rai o’r bobl yn ffotograffau Charles.
Ochr yn ochr ag arddangosfa Ysgol Dafydd Llwyd, yn Ystafell Hafan yn y Llyfrgell dangosir gweithiau personol nodedig gan Luned Rhys Parri ei hunan ar yr un thema.
Noddwyd y prosiect hwn ar y cyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol, a bydd yr arddangosfa yn y Llyfrgell yn parhau tan ddiwedd Ebrill 2012.
Roedd Rhodri Morgan, o wasanaeth addysg y Llyfrgell Genedlaethol yn falch iawn i gydweithio gyda Luned.
‘Roedd cynllun Artist Preswyl 2011, dan arweiniad Luned Rhys Parri, yn gyfle gwych i’r Llyfrgell Genedlaethol weithio law yn llaw gydag un o arlunwyr mwayf blaenllaw Cymru i hyrwyddo casgliad hynod y ffotograffydd Geoff Charles. Bu’r casgliad yn adnodd gwych i addysgu disgyblion Ysgol Dafydd Llwyd, Drenewydd, am rhai o ddigwyddiadau pwysicaf Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif, ac mae’r gwaith 3D sydd i’w weld yn yr arddangosfa yn gofnod trawiadol o lwyddiant y rhaglen,’ meddai Rhodri Morgan.
I sylw golygyddion:
Y ddelwedd a atodir yw un o’r gweithiau personol a arddangosir gan Luned Rhys Parri Am ragor o wybodaeth, cysyllter â:
Rhodri Morgan ar rhm@llgc.org.uk
Luned Rhys Parri ar lunedrhysparri@btinternet.com ( Ffôn: 01286 831780)
Ysgol Dafydd Llwyd ar swyddfa@dafyddllwyd.powys.sch.uk (Ffôn: 01686 622162)