Nid yw gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cipio nac yn cadw gwybodaeth bersonol am ein hymwelwyr oni bai ein bod yn nodi hynny'n glir.
Ni fydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir er mwyn ceisio adnabod ei defnyddwyr arlein, nac yn caniatau i drydydd parti wneud hynny.
Mae rhai o wasanaethau'r Llyfrgell Genedlaethol yn casglu cyfeiriad IP er mwyn gwella ein gwasanaethau. Rydym yn casglu cyfeiriadau IP wrth gasglu ystadegau ar ddefnydd ein gwefannau.
Ni fydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gwneud unrhyw ymgais - nac yn caniatau i drydydd parti wneud cyswllt rhwng cyfeiriadau IP a gwybodaeth fyddai'n adnabod unigolion.
Rydym yn awyddus i ddatblygu a gwella’n gwefan yn gyson, ac er mwyn gwneud hyn, yn achlysurol rydym yn gosod darnau bach o ddata ar eich cyfrifiadur. Gelwir y data hyn yn Cwcis, ac mae’n arferol i wefannau sefydliadau eu defnyddio.
Defnyddir cwcis am nifer o resymau, er enghraifft:
Defnyddir cwcis ar draws ein gwefannau, ond nid ydym yn defnyddio'r rhain er mwyn ceisio adnabod ein defnyddwyr. Gallwch reoli neu ddileu cwcis fel y mynoch. Am wybodaeth bellach gallwch ymweld â AboutCookies.org
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) yn defnyddio Google Analytics ar ei gwefannau er mwyn casglu gwybodaeth ystadegol i lunio adroddiadau ar sut mae defnyddwyr yn defnyddio'n gwefannau, a fydd yn eu tro yn llywio datblygiadau'r dyfodol. Cesglir y wybodaeth hon trwy cwcis, sef ffeiliau testunol a osodir ar eich cyfrifiadur er mwyn casglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol sy’n anhysbys (gan gynnwys cyfeiriad IP) - a ddanfonir wedyn at Google. Ceir mwy o wybodaeth ar y cwcis a ddefnyddir gan Google Analytics ar wefan Google.
O bryd yw gilydd mae'r Llyfrgell yn cynnig cynnwys o wefannau trydydd parti ar ein gwefannau ni e.e. fideos wedi eu gosod yn y testun/delweddau. Gallair rhain gynnwys cwcis eu hunain, ac nid yw'r Llyfrgell yn gyfrifol am y defnydd o'r cwcis hyn. Am wybodaeth bellach am y rhain dylid darllen polisiau prefiatrwydd y gwefannau trydydd parti.
Mae'r Llyfrgell hefyd yn cynnig i ddefnyddwyr y gallu i rannu tudalennau o'n gwefan ni trwy fewngofnodi i'ch cyfrifon ar wefannau trydydd parti o'n gwefan ni. Nid ydym yn gyfrifol am y cwcis a ddefnyddir, a dylid darllen polisi preifatrwydd y gwefannau trydydd parti o dan sylw am wybodaeth bellach.
Mae'r Llyfrgell yn cynnig dolenni i nifer o wefannau allanol yr ydym yn teimlo allai fod o ddiddordeb i'n defnyddwyr. Nid yw'r Llyfrgell yn cefnogi'r safleoedd hyn, ac rydych yn ymweld â hwy ar eich liwt eich hun. Dylai defnyddwyr hefyd fod yn ymwybodol y gallai'r gwefannau hyn ddefnyddio cwcis eu hunain, ac y dylid darllen polisi preifatrwydd bob gwefan am wybodaeth bellach.
Gall cynnwys y dudalen hon newid o dro i dro, felly byddai'n werth galw nol o bryd i'w gilydd i weld unrhyw newidiadau.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynghylch defnydd y Llyfrgell o cwcis neu ei pholisi preifatrwydd, cysylltwch â'n Gwasanaeth Ymholiadau.