Mae'r Pwyllgor Cynllunio Ariannol yn un o bwyllgorau sefydlog Bwrdd yr Ymddiriedolwyr. Gorchwyl y Pwyllgor yw ystyried a thrafod y prif faterion ariannol, yn arbennig portffolio buddsoddiadau’r Llyfrgell a’r defnydd o gronfeydd preifat y Llyfrgell, ac i wneud argymhellion i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.