Sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru drwy Siartr Frenhinol ar 19eg Mawrth 1907. Rhoddwyd Siartrau Atodol i'r Llyfrgell ym 1911 ac ym 1978, Siartrau a ddiwygiai'r cyfansoddiad ryw ychydig. Ar 19eg Gorffennaf 2006 rhoddwyd Siartr Atodol newydd gan Ei Mawrhydi y Frenhines. Mae Siartr Atodol 2006 wedi diddymu Siartr Atodol 1978 ac wedi newid cyfansoddiad a llywodraeth y Llyfrgell yn sylweddol. Lle gynt yr oedd gan y Llyfrgell Lys a Chyngor i lywodraethu drosti, mae ganddi yn awr Fwrdd o Ymddiriedolwyr.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gorff a ymgorfforwyd gan Siartr Frenhinol, ac mae hefyd yn elusen (rhif cofrestredig: 525775) ac yn Gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru (CNLC).
Derbyn y Llyfrgell yn flynyddol grant cymorth gan Lywodraeth Cymru. Yr arian hwn yw prif ffynhonell incwm y Llyfrgell.
Ers hanner olaf 2006 (ac yn sgil derbyn Siartr Atodol newydd gan y Frenhines) mae gan y Llyfrgell Fwrdd o Ymddiriedolwyr a elwir rhagllaw 'y Bwrdd'. Mae gan y Bwrdd 15 o aelodau. Penodir 8 o'r aelodau gan Lywodraeth Cymru a 7 gan y Llyfrgell Genedlaethol.
Mae gan y Llyfrgell ei swyddogion ei hun a rhydd y Siartr yr hawl i'r Bwrdd i ddirprwyo unrhyw un o'i swyddogaethau iddynt hwy, ac eithrio'r gallu i wneud rheoliadau a phenodi a diswyddo'r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd (mae'r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd yn gyflogedig ac ef/hi yw Swyddog Cyfrifyddu'r Llyfrgell).
Penodir yr Ymddiriedolwyr, gan gynnwys tri Swyddog y Bwrdd, yn unol â Statudau Diwygiedig 2013. Y tri swyddog yw'r Llywydd, yr Is-lywydd, a'r Trysorydd. Rheolir a rheoleiddir busnes y Llyfrgell hefyd yn unol â Statudau Diwygiedig 2013 a'r Rheoliadau a drefnir gan y Bwrdd.
Penodir yr Ymddiriedolwyr, gan gynnwys y tri Swyddog (sef y Llywydd, yr Is-lywydd, a'r Trysorydd), yn unol â Statudau Diwygiedig 2013.
Yr aelodau presennol yw:
Ceir amlinelliad o bapurau cyfarfodydd y Bwrdd ar y dudalen Crynodeb o Bapurau Cyfarfodydd y Bwrdd.
Isod gwelir agendâu a chofnodion cyfarfodydd y Bwrdd yn ôl blwyddyn. Mae'rBwrdd yn cyfarfod yn y Llyfrgell Genedlaethol fel arfer. Gweler isod hefyd ddyddiadau cyfarfodydd 2022.
Cysylltwch â’n Gwasanaeth Ymholiadau i wneud cais am y dogfennau canlynol mewn fformatiau eraill hygyrch, os gwelwch yn dda.
Agenda Cyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr 27 Mai 2022
Agenda Cyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr 25 Mawrth 2022
Agenda Cyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr 28 Ionawr 2022 (PDF 611 KB)