Chwilio am Ddeiliaid Hawliau

Mewn rhai achosion, gallai fod yn anodd iawn adnabod neu olrhain deiliaid hawliau ar gyfer gweithiau o’r casgliadau.

Fel rhan o’n hymgais i adnabod ac olrhain y deiliaid hawliau cyfredol, mae rhestr o unigolion, gweithiau a chyhoeddwyr wedi ei chyhoeddi a’i diweddaru ar y dudalen hon.

Os ydych yn ddeiliad hawliau ar gyfer unrhyw un o’r isod, neu os oes gennych wybodaeth a allai ein cynorthwyo yn ein chwiliad, buasem yn ddiolchgar petaech yn ysgrifennu at hawliau(at)llgc.org.uk os gwelwch yn dda. Buasem yn falch o glywed gennych.

Rhestr o bersonau, gweithiau a chyhoeddwyr

Personau

  • E. O. Davies, Ysgrifennydd Pwyllgor Hamdden y Milwyr, Llandudno
  • Ithel Davies (1894-1989) bargyfreithiwr ac ymgyrchydd gwleidyddol Cymreig
  • W. Watkin Davies (1895-1973), bargyfreithiwr, darlithydd ac awdur
  • J. Hugh Edwards (1869-1945), gwleidydd Rhyddfrydol
  • Llewelyn Wyn Griffith (1890-1977)
  • Nyrs Ethel Dora Heins o Aberhonddu
  • E. Morgan Humphreys (1882-1955)
  • Tommy James, Penrhynbach, Pennal a wasanaethodd gyda 16eg Bataliwn y Catrawd Brenhinol Cymreig
  • H. Iorwerth Hughes, Lerpwl
  • Syr Ellis Griffith Ellis (1860-1926), bargyfreithiwr ac Aelod Seneddol
  • E .T. John (1857-1931)
  • Capten David Jones (-1916)o 10fed Bataliwn (1af Rhondda) y Catrawd Cymreig
  • Francis Wynn Jones (1898-1970), ystadegydd a llenor
  • Idwal Jones (1895-1937), athro ysgol, digrifwr, bardd a dramodydd
  • T. Gwynn Jones (1871-1949), bardd ac un o lenorion mwyaf amlochrog Cymru, newyddiadurwr, cofiannydd, darlithiwr, ysgolhaig, athro, cyfieithydd
  • Dr Thomas Jones (1870-1955), gwas sifyl a Dirprwy Ysgrifennydd i'r Cabinet 1916-1930
  • Tom Hughes Jones
  • Syr J. Herbert Lewis (1858-1933), gwleidydd Rhyddfrydol
  • Ivan Monckton, Prestigne, Powys
  • Y Parchg J. Dyfnallt Owen (1873-1956), gweinidog, bardd, newyddiadurwr ac Archdderwydd
  • Gerald Rhys Phillips (????-1934), mab D. Rhys Phillips ac athro yn Ysgol Ramadeg Bideford
  • Brigadier-General H. E. ap Rhys Pryce
  • Morgan James Rees (1875-1916), swyddog yng Nghorfflu Meddygol y Fyddin Frenhinol (Royal Army Medical Corps)
  • John Bryn Roberts (1843-1931) cyfreithiwr a gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig
  • Professor Roderick Urwick Sayce (1890-1970), golygydd Montgomeryshire Collections y Powysland Club ac anthropolegydd blaenllaw
  • Albert James Sylvester (1889-1986)
  • D. A. Thomas, Viscount Rhondda (1856-1918)
  • David Thomas (1880-1967)
  • J. Thomas, Llangwyllog, Ynys Mon
  • J. B. Thomas, Blaendulais
  • Dr William Thomas (????-????)
  • Y Parchg D. Cynddelw Williams (????-????)
  • Eliseus Williams h.y. ‘Eifion Wyn’ (1867-1926), bardd
  • Evan Williams, Arfonwr (????-????)
  • John James Williams (1869-1954), gweinidog a bardd
  • W. S. Gwynn Williams (1896-1978), cerddor a chyfansoddwr
  • W. Llewelyn Williams (1867-1922), newyddiadurwr, cyfreithiwr a gwleidydd