Cefndir y prosiect:
Mae archif ITV yn cynrychioli hanes diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol unigryw Cymru yn ystod y 60 mlynedd diwethaf.
O fewn yr archif mae casgliad o gardiau mynegai sy’n nodi manylion am gynnwys amrywiaeth o raglenni a wnaed gan ITV Cymru a Bryste.
Mae cyfle i wirfoddolwyr i drawsgrifio’r data sydd ar y cardiau mynegai i ddogfen ‘Word’; bydd hyn yn galluogi yr Archifydd ITV i gopio’r trawsgrifiadau a’u huwchlwytho yn syth ar system ITV.
Prif dasgau:
Trawsgrifio gwybodaeth o gardiau mynegai i ddogfen ‘Word’
Hanfodol:
Manteisiol:
Cyfle i ddatblygu:
Amser ac ymrwymiad: I’w gytuno
This is a volunteer role description where the ability to communicate through the medium of Welsh is essential.
Pwrpas y cyfle gwirfoddoli hwn yw cyfoethogi profiad y rhai sy’n ymweld â’r Llyfrgell; bydd hefyd yn gyfle i ganfod ac ymateb i farn ein defnyddwyr ar ein gwasanaethau. Rydym yn chwilio am dîm o wirfoddolwyr dwyieithog, brwd, sy’n hoff o gwrdd â pobl newydd ac sy’n medru ymdrin â phobl o gefndiroedd, a chydag anghenion, amrywiol. Bydd y tîm croeso yn sgwrsio â’r bobl sy’n ymweld â’r adeilad, yn ogystal â chynnal arolygon barn ac ymgynghoriadau perthnasol. Darperir hyfforddiant.
Mannau cyhoeddus y Llyfrgell, o dan ofal staff yr is-adrannau Cysylltiadau Allanol a Gwasanaethau Ymwelwyr.
Amser ac ymrwymiad: I’w gytuno
Cefndir y prosiect:
Mae Archif We y DG (UKWA) yn casglu miliynau o wefannau bob blwyddyn ac yn eu cadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. O fewn UKWA mae Casgliadau Arbennig wedi eu creu sy’n ffocysu ar thema benodol, gan gynnwys un ar ‘Brexit: Effaith ar Gymru’ (https://alpha.webarchive.org.uk/en/ukwa/collection/1023).
Rydym am ehangu cwmpawd y casgliad er mwyn cynnwys erthyglau penodol ‘Brexit a Chymru’ oddi wrth:
a) y tair prif ffynonell newyddion yng Nghymru, sef Wales Online, BBC a Golwg360; a
b) seiatau syniadau/sefydliadau addysgiadol, Partion Gwleidyddol, Undebau Llafur, Busnes yng Nghymru, Undebau Amaethyddol, Llywodraeth yng Nghymru, ayyb.
Mae’n bwysig bod llais a barn y grwpiau hyn a’r cyfryngau Cymreig yn cael eu cofnodi yn y casgliad fel bod ymchwilwyr yn cael mynediad i ddeunydd amrywiol ac erthyglau penodol am effaith Brexit ar hyd a lled Cymru.
Prif dasgau:
Hanfodol:
Manteisiol:
Cyfle i ddatblygu:
Amser ac ymrwymiad: I’w gytuno.
Cefndir y prosiect:
Mae archif ITV yn un o’r archifau teledu mwyaf yn Ewrop (tua 250,000 o eitemau) gan gynnwys caniau o ffilm, tapiau a fformatau eraill. Mae'n cynrychioli hanes diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol unigryw Cymru yn ystod y 60 mlynedd diwethaf ac mae’n cynnwys rhai o ddelweddau teledu mwyaf eiconig yr oes.
Ymysg yr archif mae casgliadau o dapiau:
a) Cyfresi hanes ITV Cymru - ymysg y rhain mae dwy gyfres boblogaidd, sef “Canrif y Werin” (cofnod o atgofion y werin am ddigwyddiadau nodedig yr ugeinfed ganrif) a “Rhyfel y Cymry” (cyfres o gyfweliadau yn edrych ar effeithiau yr Ail Ryfel Byd ar Gymru a’i phobl);
b) Cyfresi materion cyfoes ITV Cymru - fel ‘Y Byd ar Bedwar’.
Mae cyfle wedi ei adnabod i wirfoddolwyr i gyfoethogi’r wybodaeth am y casgliadau hyn.
Prif dasgau:
Hanfodol:
Cyfle i ddatblygu:
Amser ac ymrwymiad: I’w gytuno
Cefndir y prosiect:
Bu Don Griffiths yn ffotograffydd i Bapurau Newydd Gogledd Cymru o 1960 – 2000.
Trosglwyddwyd ei gasgliad o negyddion, cardiau mynegai a’r hawlfraint i’r Llyfrgell yn ddiweddar. Mae’r cardiau mynegai, sydd yn nhrefn yr wyddor mwy neu lai, yn rhoi manylion am enw’r eisteddwr ynghyd â dyddiad a chyfeirnod i’r negydd.
Er mwyn sicrhau mynediad i’r casgliad i staff a defnyddwyr y Llyfrgell mae cyfle wedi codi i drawsgrifio cynnwys y cardiau mynegai i daenlen bwrpasol.
Prif dasgau:
Hanfodol:
Manteisiol:
Cyfle i ddatblygu:
Amser ac ymrwymiad: I’w gytuno
Cefndir y prosiect:
Mae’r Llyfrgell yn meddu ar gasgliad o gardiau “aperture” meicroffurf; fe’u cynhyrchwyd gan Ordnance Survey rhwng 1979 a 1997 i ddarparu diweddariad i Lyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol o gynlluniau graddfa-fawr OS wedi iddynt orffen eu cyhoeddi fel mapiau printiedig.
Dim ond ar lefel cyfres mae’r ‘Survey Information on Microfilm’ (SIMS) yma wedi eu catalogio - does dim rhestr o’r taflenni unigol, felly mae’n amhosib adnabod beth yw eu cynnwys.
Bydd rhestru'r mapiau yma yn hwyluso mynediad i staff at y cynnwys, yn hytrach na gorfod chwilio’r cypyrddau.
Prif dasgau:
Nodi rhif y ddalen, rhif y gyfres a dyddiad pob cerdyn; a
Gwirio bod y cardiau wedi eu storio yn y drefn gywir.
Hanfodol:
Cyfle i ddatblygu:
Amser ac ymrwymiad: I’w gytuno.
Cefndir y prosiect:
‘Wikipedia’ yw un o’r gwefannau mwyaf poblogaidd yn y byd, tra mai’r fersiwn Gymraeg yw’r wefan iaith Gymraeg mwyf poblogaidd erioed. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi ymrwymo i weithio gyda Wicipidia i ddatblygu cynnwys yn yr iaith Gymraeg a gwybodaeth ym mhob iaith am Gymru. Gall unrhywun olygu Wicipidia. O ychwanegu delweddau neu fynegai i greu erthyglau newydd sbon, mae Wicipidia yn cynnig platfform i bawb i rannu gwybodaeth gyda’r byd.
Lleoliad:
I gychwyn - Ystafell Ddarllen y De - o dan oruchwiliaeth Wicipediwr preswyl y Llyfrgell; yn dilyn cofnod prawf, gellid cyflawni'r dasg o bell.
Prif dasgau:
Hanfodol:
Manteisiol:
Cyfle i ddatblygu:
Amser ac ymrwymiad: I'w gytuno
Cefndir y prosiect:
Pwrpas y dasg gwirfoddoli yma yw creu rhestr o gofnodion marwolaethau Cymry amlwg, er enghraifft:
gwleidyddion, actorion, cerddorion, byd chwaraeon, awduron, beirdd, ayyb; hefyd
Cymry llai enwog, ond sydd wedi bod yn llwyddiannus yn ei maes.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn paratoi’r ffordd i staff y Llyfrgell i gofnodi’r marwolaethau ar gatalog y Llyfrgell, ac i ddiweddaru’r cofnod ar y Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein.
Prif dasgau:
Ymchwilio papurau newydd printiedig ac electronig;
Cofnodi marwolaethau ar daenlen Excel (enw’r goddrych, enw’r papur a’r dyddiad cyhoeddi);
Nodi dolen i unrhyw gofnod electronig.
Hanfodol:
Manteisiol:
Cyfle i ddatblygu:
Amser ac ymrwymiad: I’w gytuno.