Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'n bosib na fydd mynediad at ein gwefannau am gyfnodau heno (11 Rhagfyr 2024) oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nod cynllun Atgof Byw yw gwireddu potensial casgliadau gweledol a graffigol Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddatgloi atgofion a hwyluso therapi’r cof gyda phobl hŷn a’r rhai sy’n byw gyda dementia.
Cafodd y cynllun ei dreialu gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn y wardiau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn a gyda Croesffyrdd Ceredigion.
Yn dilyn hyn, cynhaliwyd ymgynghoriad ar-lein i staff yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol i asesu’r diddordeb mewn ymestyn Atgof Byw yn gynllun cenedlaethol. O ganlyniad i’r ymatebion a ddaeth i law, mae’r Llyfrgell wedi paratoi pecynnau o ffotograffau a ffilmiau at ddefnydd grwpiau gwirfoddol a chymunedol, canolfannau dydd, cartrefi gofal a sefydliadau iechyd trwy Gymru.
Mae'r adnoddau hyn yn cael eu cynnig yn rhad ac am ddim i lyfrgelloedd cyhoeddus ac i'r rheiny sy'n gweithio ym maes gofal pobl hŷn a gofal iechyd meddwl, ac mae'n nhw'n cynnwys:
I lawrlwytho'r e-lyfr:
Ar eich dyfais, cliciwch ar y pdf isod. Sylwer y bydd y dolenni i'r ffilmiau yn eich ailgyfeirio i wefan Chwaraewr y BFI.
I gael mwy o wybodaeth am yr adnoddau, neu i drafod derbyn copi yn rhad ac am ddim, cysylltwch â gwirfoddoli@llyfrgell.cymru neu ffoniwch ni ar 01970 632 991 / 01970 632 424.