Symud i'r prif gynnwys

Croesawu Gwirfoddolwyr

Rydym yn awyddus iawn i agor ein drysau a rhoi cyfle i chi weithio’n wirfoddol yn y Llyfrgell. Bydd gwirfoddolwyr yn ymwneud â phob math o brosiectau diddorol gan ychwanegu at werth yr hyn a gyflawnir gan ein staff ar hyn o bryd. O bryd i’w gilydd byddwn yn gofyn am gymorth arbenigol, ond ar gyfer llawer o'n prosiectau y cyfan sydd ei angen yw brwdfrydedd a pharodrwydd i ddysgu.

O roi o’ch amser i ni byddwch chi, fel ni, ar eich ennill.


Sut y medrwch chi helpu?

Cyfleoedd Cyfredol

Chwilio am rôl wirfoddol? Rydym yn cynnig cyfleoedd amrywiol wedi'u teilwra i'ch sgiliau. O ymgysylltu ag ymwelwyr, cynorthwyo mewn digwyddiadau, i gefnogi ein harddangosfeydd trwy roi sylw i ymholiadau cyhoeddus. Neu helpwch ni gyda gwaith y tu ôl i'r llen: helpu i drefnu casgliadau, helpu i baratoi archifau ar gyfer catalogio, ac adeiladu cronfeydd data. Beth bynnag fo'ch sgiliau rydym yn cynnig cyfleoedd i gyfrannu wrth ennill profiad ymarferol mewn lleoliad diwylliannol.

Gwirfoddoli o bell

Mae llwyfan torfoli’r Llyfrgell Genedlaethol wedi trawsnewid gwirfoddoli. Nawr, gall unrhyw un sydd â Wi-Fi gyfrannu o unrhyw le – o’u cartrefi, o ganolfannau cymunedol, neu o du hwnt i Gymru. Mae gwirfoddoli o bell yn ehangu cyfleoedd, gan alluogi gwirfoddolwyr digidol i gefnogi ein gwaith o bell. Drwy groesawu technoleg, rydym wedi cael gwared ar rwystrau daearyddol, gan wahodd mwy o bobl i ymgysylltu â’n casgliadau gwerthfawr.


Sut i gychwyn

Yn gyntaf ewch i weld Cyfleoedd cyfredol a/neu Gwirfoddoli o Bell i weld a oes un sy'n apelio. Darllenwch y disgrifiad rôl yn fanwl yn enwedig y Gofynion a'r Ymroddiad.

Cyn gwneud cais meddyliwch dros y canlynol:

  • eich rhesymau dros wirfoddoli;
  • sut byddai gwirfoddoli'n gweithio gyda'ch ymrwymiadau eraill.

Ar ôl penderfynu pa rôl wirfoddoli sy'n gweddu orau i'ch sgiliau a'ch diddordebau llenwch y ffurflen gais. Fel arfer rhoddir gwybod i ymgeiswyr am hynt eu cais drwy ebost.

Os na welwch rywbeth at eich dant ymhlith y prosiectau cyfredol yna beth am gofrestru nawr ar gyfer prosiectau’r dyfodol, fel bod modd i ni gysylltu â chwi eto pan ddaw'r amser.

Gydag unrhyw ymholiadau ac i gofrestru cysylltwch â:

Eilir Evans

Cydlynydd Gwirfoddolwyr

Ebost: gwirfoddoli@llgc.org.uk

Ffôn: (01970) 632424


Cofiwch mai 16 yw'r oed ifancaf i wirfoddoli – ond does neb byth yn rhy hen i gychwyn!