Sefydlwyd y Llyfrgell gan roddion pobl Cymru, er mwyn casglu a gwarchod treftadaeth y genedl. Wrth ddewis rhoi'n rheolaidd fe fyddwch chi'n parhau'r traddodiad hwnnw.
Mae'r arian ychwanegol a dderbyniwn yn ein galluogi i ddatblygu ein casgliadau a'r gwasanaethau a ddarperir i genedlaethau’r dyfodol, trwy gyflawni gwaith cadwraeth hanfodol a chynnal ein harddangosfeydd a gwasanaeth addysg blaenllaw.
Os hoffech chi gefnogi'n rheolaidd neu trwy gyfrannu unwaith yn unig, cwblhewch y ffurflen 'Taflen Rhoddi'n Rheolaidd' (colofn dde) a dychwelwch os gwelwch yn dda i:
Swyddfa Codi Arian,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3BU
Am wybodaeth bellach cysylltwch â ni:
Ffôn: (01970) 632938
E-bost: cefnogwch-ni(at)llgc.org.uk