Os ydych yn cwblhau ffurflen dreth hunanasesiad, gallwch enwebu Llyfrgell Genedlaethol Cymru i dderbyn unrhyw ad-daliad treth sy'n ddyledus i chi. Bydd y Llywodraeth yn trin yr ad-daliad hwn fel Cymorth Rhodd a bydd y Llyfrgell yn derbyn 25c yn fwy am bob £1 a roddir - a hynny heb unrhyw gost ychwanegol i chi. Unwaith y prosesir eich ffurflen dreth a chadarnhau bod ad-daliad yn ddyledus, bydd Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn talu'r swm yn syth i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
I sicrhau ein bod yn derbyn eich ad-daliad treth, a fyddech gystal â chynnwys ein rhif adnabod unigryw SAQ45BG ar eich ffurflen hunanasesiad.
Gallwch gynyddu gwerth eich rhodd o 25% drwy roi tic yn y blwch Cymorth Rhodd ar eich ffurflen dreth hunanasesiad. Bydd Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn talu 25c ychwanegol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am bob £1 y byddwch yn ei roi. Noder bod rhaid i chi fod yn talu o leiaf cymaint o dreth y DU neu enillion treth cyfalaf ar gyfer y flwyddyn dreth y byddwch yn rhoi ynddi â'r swm y byddem yn ei adhawlio ar y rhodd.
Dilynwch y ddolen am ragor o wybodaeth.