Mae wythnos Archwiliwch Eich Archif (21-29 Tachwedd 2020) yn ymgyrch cenedlaethol a gynhelir bob blwyddyn ym mis Tachwedd ac mae’n rhoi’r cyfle i archifdai Prydain arddangos y trysorau di-ri sydd i’w canfod ymysg eu casgliadau. Bwriad yr ymgyrch yw dathlu treftadaeth ddogfennol Cymru ac annog pobl i’w defnyddio a darganfod y storïau a’r ffeithiau sydd yn gudd mewn casgliadau archifdai.
Eleni bydd ymgyrch ‘Archwiliwch’ Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn canolbwyntio ar annog unigolion i chwilio ein casgliadau helaeth a’u ddefnyddio i greu cynnwys creadigol newydd sbon. Rydym yn falch o gyhoeddi felly cyfle cyffrous i 3 unigolyn creadigol i wneud cais i ennill ffi o £100, a hynny am greu darn o waith newydd yn seiliedig ar eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell.
Felly, gwahoddir ceisiadau gan unigolyn i greu gwaith unigryw gan ddefnyddio eitem/au o’n casgliadau (rheiny sydd ar gael yn ar-lein) fel eu hysbrydoliaeth - yn eitemau print, archifol, llawysgrifau, graffigol neu clyweledol - er mwyn arddangos pwysigrwydd a pherthnasedd archifau ym mywydau pobl Cymru. Bydd y gweithiau a gomisiynir yn cael eu harddangos ar y we yn ystod wythnos Archwiliwch a byddwn yn gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus perfformio neu trafod eu gwaith, yn y gobaith o ysbrydoli eraill i fod yn greadigol gyda chasgliadau treftadaeth dogfennol Cymru.
Mae 3 comisiwn gwerth £100 yr un ar gael i unigolion, parau neu grwpiau creadigol.
Mae’r cyfle yma yn agored, ond heb ei gyfyngu i:
Bydd ceisiadau ar gyfer bob cyfrwng artistig yn cael eu hystyried, er bydd yn rhaid i'r gwaith fod yn wreiddiol.
Defnyddio unrhyw eitem(au) sydd wedi eu digido o gasgliad archifau, llawysgrifau, darluniau, mapiau, ffotograffau, deunydd print neu gasgliadau Archif Sgrin a Sain y Llyfrgell Genedlaethol fel sail ar gyfer darn artistig newydd. Gall hynny gynnwys, ond heb ei gyfyngu i:
Byddwn yn gofyn i ymgeiswyr adnabod eitem(au) o ddiddordeb iddynt, sydd wedi eu digido ac ar gael ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol, yn ogystal â gwefannau allanol detholedig.
Am fanylion pellach ar y casgliadau hynny sydd ar gael yn ddigidol ewch i'r tudalennau gwe:
Neu mae modd chwilio ein Catalog a dethol ‘wedi’i ddigido’ wrth iddo ymddangos yn y blwch chwilio.
Bydd angen i ymgeiswyr ddanfon brîff cryno at y Llyfrgell yn amlinellu'r hyn sydd wedi eu hysbrydoli a disgrifiad bras o’r darn artistig terfynol.
Wedi i’r Llyfrgell ddethol yr ymgeiswyr llwyddiannus, bydd angen iddynt fynd ati i lunio’r darn hynny ag amlinellwyd yn eu brîff a’i gyflwyno mewn pryd i’w gyhoeddi yn ystod wythnos Archwiliwch Eich Archif.
Bydd y gwaith terfynol yn cael ei arddangos ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol y Llyfrgell, ac o bosib mewn arddangosfa yn y Llyfrgell yn y dyfodol.
Danfonwch brîff byr yn amlinellu:
Mae croeso i chi gysylltu â’r Llyfrgell drwy e-bostio post@llyfrgell.cymru i drafod ymhellach.
12.00pm (hanner dydd) ar ddydd Gwener 16 Hydref 2020
Byddwn yn dethol y ceisiadau llwyddiannus ac yn danfon cadarnhad at yr ymgeiswyr hynny ar Ddydd Mercher 21 Hydref 2020.
Dyddiad cwblhau a chyflwyno’r gwaith yw 16 Tachwedd a byddwn yn anfon cytundeb i’w arwyddo i'r 3 ymgeisydd llwyddiannus.