Symud i'r prif gynnwys

Datganiad Preifatrwydd Gwasanaeth Ymholiadau

Pam ydych chi angen fy ngwybodaeth bersonol?

I’n galluogi ni i ddarparu mynediad cofnodedig i’r casgliadau a gwasanaethau sydd ar gael i chi fel deilydd cyfrif LlGC.

Ar ba sail fyddwch chi’n prosesu’r data?

Fel rhan o’n Tasg Gyhoeddus fel Llyfrgell Genedlaethol fel y nodir yn ein Siarter a dogfennau llywodraethol eraill perthnasol.

A fydd unrhyw un arall yn derbyn copi o’r data?

Mi fydd y data yn cael ei storio'n ddiogel ar system allanol a ddefnyddir i weinyddu'r gwasanaeth - LibAnswers/Springshare ar hyn o bryd. Trosglwyddir y data a brosesir yn LibAnswers i’r Unol Daleithiau America lle mae Springshare yn seiliedig. Mae gan y Llyfrgell gytundeb Cymalau Cytundebol Safonol gydag Springshare sydd yn sicrhau diogelwch digonol ar gyfer unrhyw ddata personol a drosglwyddir y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Ni fyddwn ni na nhw yn rhannu eich data gydag unrhyw un arall y tu allan i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Am fwy o wybodaeth, gweler Polisi preifatrwydd Springshare.

Am ba hyd y byddwch yn cadw'r data personol?

Mae ymholiadau yn cael eu dileu ar ôl 3 blynedd.

Beth fydd yn digwydd os nad wyf yn darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer cofrestru?

Ni allwn ni ateb eich ymholiad.

Pwy fydd yn gyfrifol am reoli'r data rwy'n ei ddarparu?

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ble mae modd cael hyd i fwy o wybodaeth?

Ceir gwybodaeth bellach am ein polisï gwarchod data ar ein tudalen  Rheoliad Cyffredinol Gwarchod Data.