Ceisiadau i wylio ffilmiau neu fideos sydd heb gael eu digido.
Yn anffodus nid yw’n bosib ar hyn o bryd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ymateb i geisiadau i wylio neu ddarparu copïau o eitemau ffilm neu fideo os nad ydynt eisoes wedi eu digido. Mae hyn oherwydd bod yn rhaid i’r Llyfrgell flaenoriaethu’r gwaith o ddigido casgliadau cyfan yn unol â’n gofynion strategol a gweithredol, fydd yn arwain at well gwasanaeth i’n holl ddefnyddwyr.
Ymddiheurwn am yr anghyfleustra fydd hyn yn ei achosi ond mae’r penderfyniad yn angenrheidiol er mwyn cyflymu’r broses ddigido.