Yn gyfrifol am y Llyfrgell a’i staff, a sicrhau bod y Llyfrgell yn cwrdd â’u gofynion statudol, a’u hamcanion elusennol. Y Llyfrgellydd sydd yn gyfrifol am ddatblygu Cynllun Strategol a Chynllun Gweithredol y Llyfrgell, a sicrhau fod amcanion a thargedau realistig yn cael eu gosod, a’u bod yn cael eu cyflawni. Mae’r Llyfrgellydd hefyd yn cynnig arweiniad clir i’r Llyfrgell ac yn gweithredu fel Swyddog Cyfrifyddu, gyda chyfrifoldeb dros gyllidebau’r Llyfrgell.
E-bost: pedr.ap.llwyd(at)llgc.org.uk
Ffôn: +44 (0) 1970 632 952
Yn gyfrifol am wasanaethau corfforaethol y Llyfrgell, cyllid, busnes, cyfleusterau'r adeilad, technoleg gwybodaeth, codi incwm a chodi arian.
E-bost: david.michael(at)llgc.org.uk
Ffôn: +44 (0) 1970 632 855
Yn gyfrifol am y casgliadau a gweithgareddau cyhoeddus y Llyfrgell. Mae hyn yn cynnwys casglu, derbyn, disgrifio, gwarchod, digido, mynediad, dehongli ac ymgysylltu.
E-bost: owain.roberts(at)llgc.org.uk
Ffôn: +44 (0) 1970 632 830