Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae’r Llyfrgell yn casglu gwybodaeth bersonol at ddibenion sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gwasanaeth, swyddogaeth neu weithgaredd y Llyfrgell. Y Llyfrgell fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol a brosesir mewn cysylltiad â recordio cyfarfodydd. Mae gan y Llyfrgell gytundebau cytundebol gyda chyflenwyr trydydd parti megis Zoom a Microsoft ar gyfer prosesu a storio data sy’n cydymffurfio ac yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd byw a storio recordiadau a thrawsgrifiadau sgwrsio ar eu platfform cwmwl.
Gall y Llyfrgell ddal y data personol canlynol yn ystod sesiwn wedi’i recordio
Pwrpas recordio’r sesiwn yw
Mae gan y Llyfrgell sawl sail gyfreithiol i gasglu a phrosesu gwybodaeth bersonol, fel y nodir yn Erthygl 6 y GDPR, ac yn yr achos yma bydd yn dibynnu ar 6(1)f Buddiannau Cyfreithiol i brosesu’r data yma
Mae hyn yn berthnasol gan y byddwn yn defnyddio’r data yn benodol at y pwrpas a nodir i gynhyrchu cofnodion cywir o gyfarfodydd ac sydd, yn ein tyb ni, ond ag effaith preifatrwydd cyfyngedig ar unigolyn
Bydd y Llyfrgell ond yn cadw’r data am gyhyd ag sydd angen i ddrafftio trawsgrifiad o gofnodion y cyfarfod. Bydd y recordiadau a thrawsgrifiadau sgwrs yn cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y cofnodion wedi'u drafftio. Cyfrifoldeb y clerc sy'n drafftio'r cofnodion yw dinistrio'r recordiad unwaith y bydd y cofnodion wedi'u drafftio
Bydd cyfarfodydd staff, a gadeirir gan y Prif Weithredwr a’r Llyfrgellydd, a chyfarfodydd undebau llafur y Llyfrgell a fynychir gan staff, lle cydnabyddir bod angen i staff nad ydynt yn gallu bod yn bresennol dderbyn y wybodaeth, yn cael eu recordio, at ddiben eu rhannu â staff nad oeddent yn gallu mynychu ar y diwrnod, ond bydd y recordiad yn cael ei ddileu o fewn tri mis
Bydd y Cadeirydd yn hysbysu’r rhai sy’n bresennol ar ddechrau’r cyfarfod ei fod yn cael ei recordio, a bydd yn cyfeirio’r rhai sy’n bresennol at y datganiad preifatrwydd hwn
Os ydych yn anhapus i gael eich recordio, yna rhaid i chi hysbysu'r Cadeirydd naill ai cyn y cyfarfod, neu ar ddechrau'r cyfarfod. Gallwch ddewis tewi eich meicroffon a throi eich camera i ffwrdd trwy gydol y cyfarfod
Os ydych yn anfodlon â’r ffordd y mae’r Llyfrgell yn casglu ac yn defnyddio eich data personol o dan y datganiad preifatrwydd hwn, mae croeso i chi gysylltu â Swyddog Diogelu Data’r Llyfrgell ar dpo@llyfrgell.cymru