Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Cysylltwch â’n Gwasanaeth Ymholiadau i wneud cais am y dogfennau canlynol mewn fformatiau eraill hygyrch, os gwelwch yn dda.
Mae'r Rheoliad Cyffredinol Gwarchod Data 2018 yn rhoi i unigolion yr hawl i gael mynediad at wybodaeth amdanynt hwy eu hunain. Mae'r tudalennau hyn yn cynnwys canllawiau sy'n dangos sut mae cael mynediad at wybodaeth a gedwir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru o dan amodau'r Rheoliad Cyffredinol Gwarchod Data.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru'n cymryd o ddifrif ei oblygiadau ynglyn â gwarchod data ac oherwydd hyn mae gan y Llyfrgell Swyddog Gwarchod Data sy'n gyfrifol am sicrhau fod y Llyfrgell yn cyflawni ei gwahanol rwymedigaethau cyfreithiol o dan y Rheoliad Cyffredinol Gwarchod Data a hefyd yn gyfrifol am sicrhau cywirdeb y cofnod yng nghofrestr y Comisiynydd Gwybodaeth.
Cysylltu â'r Swyddog Gwarchod Data: Rhodri Llwyd Morgan yw Swyddog Gwarchod Data'r Llyfrgell a dylid cyfeirio pob ymholiad gwarchod data ato.
Manylion cyswllt:
Swyddog Gwarchod Data
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3BU
Rhif ffôn: 01970 632 952
Ebost: dpo@llgc.org.uk