Hanes yr Adeilad

Cefndir

Roedd y cyhoeddiad yng Nghyllideb 1905 y byddai darpariaeth ariannol ar gyfer sefydlu Llyfrgell ac Amgueddfa Genedlaethol i Gymru yn ymateb i ymgyrchu a phwysau gwleidyddol gan grwpiau ac unigolion gwahanol yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif. Roedd y rhai oedd yn dadlau bod angen y sefydliadau hyn ar Gymru yn pryderu bod rhai o'r eitemau pwysicaf sy'n adrodd stori Cymru mewn perygl o gael eu gwasgaru, ac yn gweld sefydlu Llyfrgell ac Amgueddfa Genedlaethol fel ffordd o ddiogelu trysorau Cymru, a'u cadw nhw yng Nghymru.

Cystadleuaeth

Yn dilyn cyhoeddi’r bwriad i sefydlu Amgueddfa a Llyfrgell Genedlaethol datblygodd cystadleuaeth frwd rhwng Caerdydd ac Aberystwyth ynglŷn â’u lleoliad. Roedd Aberystwyth yn dymuno bod yn gartref i’r Llyfrgell tra bod Caerdydd am fod yn gartref i’r ddau sefydliad. Paratowyd dau ddatganiad manwl gan y ddwy dref ac ym mis Mehefin 1905 cyhoeddwyd y byddai Aberystwyth yn gartref i’r Llyfrgell Genedlaethol, ac mai Caerdydd fyddai cartref yr Amgueddfa Genedlaethol.

Cyfranodd nifer o ffactorau at lwyddiant Aberystwyth, gan gynnwys lleoliad daearyddol y dref, y ffaith bod Coleg y Brifysgol yn hyrwyddo'r achos dros roi’r Llyfrgell Genedlaethol yno, a swm o £20,000 a gasglwyd tuag at y Llyfrgell yn enw Aberystwyth. Ond dau o’r ffactorau pwysicaf oedd bod yr hynafiaethydd Syr John Williams wedi addo ei gasgliad amhrisiadwy i’r Llyfrgell ar yr amod ei bod yn dod i Aberystwyth, a bod yr Arglwydd Rendel yn barod i roi tir i adeiladu’r Llyfrgell.

Siartr Frenhinol

Sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru drwy Siartr Frenhinol ar 19 Mawrth 1907. Agorwyd drysau’r Llyfrgell Genedlaethol am y tro cyntaf ar 1 Ionawr 1909 ac am bron i 8 mlynedd ei chartref dros dro oedd Maes Lowri, ger yr Hen Goleg yn Aberystwyth. Mae’r Llyfrgellydd cyntaf, Syr John Ballinger, yn disgrifio’i hun yn dechrau ar ei swydd newydd yn rhedeg y Llyfrgell Genedlaethol mewn ‘adeilad wedi ei logi, heb lyfr na silff lyfrau’.

Yn y cyfamser roedd Cyngor y Llyfrgell wedi estyn gwahoddiad agored i benseiri i gystadlu mewn cystadleuaeth i gynllunio cartref parhaol newydd sbon i’r Llyfrgell. Derbyniwyd cynlluniau gan 6 phensaer a dewiswyd cynllun Sidney K Greenslade.

Adeiladu

Cychwynnwyd ar y gwaith adeiladu yn dilyn gosod y garreg sylfaen yn 1911. Yr ystafelloedd darllen oedd y rhannau cyntaf o’r adeilad i’w hadeiladu ac fe’u hagorwyd yn 1916.

Ymestyn yr adeilad

Dilynwyd yr Ystafelloedd Darllen gan y bloc gweinyddol yn 1937 a’r bloc technegol ar gyfer yr adran gadwraeth, y rhwymwyr, y ffotograffwyr a’r argraffwyr yn 1955. Parhaodd y gwaith ar yr adeilad gyda chwblhau’r storfa gyntaf yn 1965. Agorwyd yr ail stac yn 1982 a’r trydydd stac yn 1996.

Datblygiadau eraill sydd wedi newid ymddangosiad y Llyfrgell yw adeilad Canolfan Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd a chartref Geiriadur y Brifysgol, sydd ar y chwith i brif adeilad y Llyfrgell a agorwyd yn 1993, a’r Drwm a agorwyd yn 2005.