Y gwaith adnewyddu
Roedd y gwaith yn cynnwys adnewyddu waliau allanol y prif adeilad gan gynnwys adeiladau mewnlenwi. Yn bennaf, roedd hyn yn cynnwys ailosod gorchuddion to, mewn rhai achosion ailosod ffenestri metel a choed ac atgyweirio ac ailosod carreg Portland. Roedd hefyd yn cynnwys adnewyddu eang y tu mewn i rannau helaeth o'r adeilad, gan gynnwys adnewyddu'r pibellau gwresogi cyfan a'r system drydanol yn y Bloc Gweinyddol.
Rhestr waith
- Gosod sgaffaldiau uchder llawn dros dro i berimedr allanol yr adeilad.
- Gwaith to: tynnu a gosod Llechi Cymreig newydd ar y Bloc Gweinyddol, ochr ddeheuol yr adeilad, Ystafell Ddarllen y Gogledd a Llawysgrifau.
- Tynnu ac adnewyddu toeau plwm y Bloc Gweinyddol, ochr ddeheuol yr adeilad, Ystafell Ddarllen y Gogledd, Llawysgrifau ac ystafell Herbert Morgan.
- Tynnu a gosod plwm a llechi newydd i'r to mansard, cromenni, cwteri a chornisiau.
- Gosod to mwyn wedi'i inswleiddio newydd i'r ystafell reprograffeg a'r Ystafell Addysg.
- Tynnu a gosod to newydd yn adeilad y storfa allanol.
- Tynnu a gosod toeau copr yn y Prif Gyntedd, y grisiau a'r uwch-gyntedd
- Gosod carreg newydd ac atgyweirio carreg Portland.
- Mecanyddol a Thrydanol: adnewyddu'r holl bibellau gwresogi a'r system yn y Bloc Gweinyddol.
- Adnewyddu ffenestri y Bloc Gweinyddol, ochr ddeheuol yr adeilad, Ystafell Ddarllen y Gogledd a Llawysgrifau yn llawn.
- Tynnu a gosod 4 to pyramid gwydr newydd.
- Adnewydd Oriel Gregynog yn llawn.
Mae'r adrannau isod yn cynnwys mwy na 50 delwedd o'r gwaith adnewyddu. Darperir yr holl ddelweddau trwy garedigrwydd Iwan Thomas, Pensaernïaeth DarntonB3 a Dylan Richards, RL Davies a’i Fab Cyf, a Mark Stevens a Scott Waby, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Glanhau ac adfer y gwaith carreg a'r cornisiau
Glanhau'r gwaith carreg i baratoi ar gyfer gwaith adnewyddu, tynnu ac adnewyddu balconïau, adfer maen enw y Llyfrgell, trwsio erydiad blociau cornis.(13 delwedd)

Glanhau'r gwaith carreg i baratoi ar gyfer gwaith adnewyddu

Glanhau'r cerrig parapet wrth baratoi ar gyfer gwaith adnewyddu

Cerrig parapet wedi'u glanhau ac yn barod i'w hail-bwyntio

Tynnu balconi

Gwaith paratoi ar drwsio maen enw y Llyfrgell

Adfer maen enw y Llyfrgell

Adfer maen enw y Llyfrgell

Erydiad bloc cornis

Cerrig cornis wedi'u hadfer

Manylun erydiad carreg cornis cornel

Manylun carreg cornis cornel wedi'i hadfer

Erydiad bloc cornis

Blociau a chornisiau wedi eu hadfer
PreviousNext
Gweithio ar y balconïau, y ffenestri a'r plwm
Atgyweirio erydiad y balconïau dur, adfer ffenestri pren a dur, a gwaith plwm newydd. (10 delwedd)

Erydiad balconi dur

Manylun erydiad balconi dur

Balconi ar ôl ei adfer, cyn paentio

Gwaith adfer ar ffenestri pren

Manylun y ffenestri pren wedi'u hadfer

Ffenestri dur newydd yn yr Ystafell Ddarllen

Gorchudd plwm newydd ar gyfer Ystafell Herbert Morgan

Gorchudd plwm newydd ar gyfer y bloc gorllewinol

Gorchudd plwm newydd ar gyfer cornisiau

Gwaith plwm wedi'i adfer ar gornisiau
PreviousNext
Y Prif Gyntedd ac Oriel Gregynog
Cael gwared ar y plinthiau marmor sy'n gorchuddio'r pibellau ar ymylon y Prif Gyntedd, tynnu y lloriau eu hunain, gosod pibellau gwresogi newydd, gosod plinthau marmor newydd, tynnu rhaniadau ac adnewyddu Oriel Gregynog yn llwyr. (11 delwedd)

Gosod pibellau gwresogi o dan plinthiau marmor y Prif Gyntedd

Manylun o'r pibellau a osodwyd o dan y plinthiau marmor yn y Prif Gyntedd

Manylun gwaith i osod pibellau gwresogi yn y Prif Gyntedd

Pibellau gwresogi yn cael eu gosod yn y Prif Gyntedd

Y Prif Gyntedd wedi'r gwaith

Gwaith paratoi ar gyfer adnewyddu Oriel Gregynog

Gwaith paratoi ar gyfer adnewyddu Oriel Gregynog

Adnewyddu Oriel Gregynog

Adnewyddu Oriel Gregynog

Oriel Gregynog gyda'r parwydydd wedi'u tynnu

Oriel Gregynog gyda'r gwaith adnewyddu wedi'i gwblhau
PreviousNext
Toeau llechi, copr a gwydr
Tynnu yr hen lechi a gosod llechi Cymreig newydd ar do Oriel Gregynog a rhannau eraill o'r adeilad, tynnu ac ailosod toeau copr ac adnewyddu toeau gwydr. (10 delwedd)

Gwaith paratoi ar gyfer atgyweirio'r to

Llechi Cymreig yn barod i'w gosod

Atgyweirio'r to

Gwaith paratoi ar gyfer atgyweirio'r to copr

To copr newydd dros y prif risiau

Llechi Cymreig yn barod i'w gosod ar do Oriel Gregynog

Atgyweirio to Oriel Gregynog

Llechi Cymreig newydd ar do Oriel Gregynog

Golygfa allanol o'r to newydd ar Ystafell Ddarllen y Comsiwn Brenhinol

Golygfa fewnol o'r to newydd yn Ystafell Ddarllen y Comsiwn Brenhinol
PreviousNext
Swyddfeydd, ystafelloedd a draeniau copr
Adnewyddu Ystafell y Cyngor, gosod pibellau gwresogi a cheblau trydanol newydd yn y Bloc Gweinyddol, tynnu'r hen ddraeniau copr, a chynhyrchu a gosod draeniau newydd (9 delwedd)

Ystafell y Cyngor ar ôl ei hadnewyddu

Pibellau gwresogi a cheblau trydan newydd yn y Bloc Gweinyddol

Pibellau gwresogi newydd yn y Bloc Gweinyddol

Pibellau gwresogi a cheblau trydan newydd yn y Bloc Gweinyddol

Lloriau wedi'u codi i osod ceblau a phibellau yn swyddfeydd y Bloc Gweinyddol

Swyddfa ar ôl ei hadnewyddu

Dirywiad y copr gwreiddiol

Cynhyrchu draeniau copr newydd

Draeniau copr newydd wedi eu gosod
PreviousNext