Symud i'r prif gynnwys
Dataset:COFNODION HARBWR ABERYSTWYTH
Description:Pedwar set o gofnodion yn ymwneud â llongau oedd yn defnyddio harbwr Aberystwyth rhwng 1874 a 1953.
Code:cha (côd unigryw ar gyfer y set data yma ar Data LlGC)
Version:v0.1 21-12-2017 [Dim fersiynau blaenorol]
Licence:Parth Cyhoeddus (CC0)
LAWRLWYTHOLawrlwytho ffeiliau trwy Github

Trawsgrifiwyd y set data gan wirfoddolwyr fel rhan o Raglen Gwirfoddoli Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mwy am y set data yma

Pedwar set o gofnodion yn ymwneud â llongau oedd yn gwneud defnydd o harbwr Aberystwyth rhwng 1874 a 1953. Mae meysydd data yn NLW Facs 785/786/787 yn cynnwys: Dyddiad, Enw'r Llong, Porthladd roedd y Llong yn perthyn iddo, Enw'r Capten, Llongwyr, Cargo a'i bwysau mewn Tunelli. Mae NLW Facs 788 yn cynnwys Dyddiad, Enw Llong, Porthladd ble cofrestrwyd y Llong, Hyd, Dyfnder, Dyfnder yr Howld, Rhif Swyddogol ac Unrhyw Wybodaeth Arall.

Cofnodion Catalog:

  • NLW Facs 785 (Cargo yn Gadael, Gorffennaf 1874 - Awst 1950; 987 cofnod)
  • NLW Face 786 (Cargo yn Cyrraedd, Gorffennaf 1874 - Rhagfyr 1889; 1,431 cofnod)
  • NLW Face 787 (Cargo yn Cyrraedd, Ionawr 1890 - Awst 1950; 1,841 cofnod)
  • NLW Face 788 (Rhestr o Longau a'u Mesuriadau, 1927-1953; 66 cofnod)