Brut y Tywysogion

Cyfeirnod: Peniarth MS 20

Mae llawysgrif Peniarth 20 yn cynnwys testun cynnar 'Brut y Tywysogion' sy'n cofnodi hanes Cymru o 682 tan 1332. Mae hefyd yn cynnwys nifer o destunau eraill, sef 'Y Bibl Ynghymraec', 'Kyvoesi Myrddin a Gwenddydd' a 'Gramadeg Barddol'.

Y Bibyl ynghymraec

Mae'r testun cyntaf yn y llawysgrif, sef 'Y Bibyl ynghymraec', yn gyfieithiad o ran o Promptuarium Bibliae. Crynodeb yw'r testun o hanes y byd rhwng y cread a merthyru Sant Pedr a Sant Paul. Mae'n canolbwyntio ar hanes crefyddol ac ychydig iawn o gyfeiriadau a geir i'r hyn oedd yn digwydd yn y byd seciwlar. Deillia mwyafrif y testun o lyfrau hanesiol y Beibl ond ceir peth deunydd o'r Apocryffa a gwaith awduron fel Josephus ac Orosius.

Brut y Tywysogion

Mae 'Brut y Tywysogion' yn gyfieithiad o waith Lladin coll, y Cronica Principium Wallie. Yr oedd y Cronica wedi'i seilio ar yr annales, sef croniclau a gadwyd gan eglwysi a mynachlogydd. Yn wahanol i gofnodion ffeithiol, diaddurn yr annales, defnyddiodd awdur y Cronica arddull gain ac urddasol gan droi ffeithiau moel yn greadigaeth lenyddol. Dechreua'r 'Brut' gyda marwolaeth Cadwaladr Fendigaid yn 682, sef lle y mae 'Brut y Brenhinedd' Sieffre o Fynwy yn gorffen, a diwedda gyda marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd yn 1282. Y 'Brut' yw un o'r ffynonellau pwysicaf am hanes Cymru cyn concwest Edward I. O ganlyniad i'r nifer fawr o gyfeiriadau at Ystrad Fflur yn y 'Brut', gellir ystyried mai dyna lle lluniwyd y fersiwn gwreiddiol.

Ceir dau brif fersiwn o 'Frut y Tywysogion', sef y fersiwn a geir yn Llyfr Coch Hergest a gedwir yn Llyfrgell Bodley, Rhydychen a fersiwn Peniarth 20. Mae testun Peniarth 20 yn llawnach a chywirach.

Nid yw'n hysbys pwy oedd yn gyfrifol am lunio'r 'Brut', ond mae'r dystiolaeth yn awgrymu ei fod yn Gymro gan iddo wneud deunydd helaeth o ymadroddion a diarhebion Cymraeg. Fel Gildas, Sieffre o Fynwy a Gerallt Gymro y mae'n ystyried trafferthion y Cymry fel cosb Duw am eu pechodau.

Yn Peniarth 20 ychwanegwyd y cofnodion ar gyfer y blynyddoedd 1282-1332 at y prif destun gan dau neu dri o gopïwyr diweddarach. Ar ôl i'r testun gael ei gopïo, mae'n amlwg y darllenwyd y llawysgrif yn fanwl gan unigolyn arall a gyfeirir ato fel y 'cywirwr cynnar'. Mae nifer o lawysgrifau eraill yn cynnwys testun fersiwn Peniarth 20 o 'Brut y Tywysogion' yn rhannol neu yn ei gyfanrwydd gan gynnwys Llyfr Du Basing sydd hefyd yng nghasgliadau'r Llyfrgell.

Myrddin a Gwenddydd

Y testun nesaf yn Peniarth 20 yw cerdd yn dwyn y teitl 'Kyvoesi Myrddin a Gwenddydd' ar ffurf ymddiddan. Deialog yw'r gerdd rhwng Myrddin a'i chwaer Gwenddydd.

Gramadeg barddol

Diwedda'r llawysgrif gyda gramadeg barddol. Crynodeb yw'r gramadeg o'r cyfarwyddiadau a ddysgai disgyblion ysgolion y beirdd. Mae'n dechrau drwy sôn am y defnydd o sillafau yn y Gymraeg. Aiff ymlaen i drafod y rhannau ymadrodd a chystrawen cyn trafod mesurau barddonol. Gorffenna gyda chyfres o 'drioedd cerdd'.

Darllen pellach

  • J. E. Lloyd, The Welsh Chronicles. London : Humphrey Milford, 1928
  • Thomas Jones (ed.), Brut y Tywysogyon or The Chronicle of the Princes : Peniarth Ms 20 version. Caerdydd : Gwasg Prifysgol Cymru, 1952
  • Thomas Jones (gol.), Brut y Tywysogyon : Peniarth MS 20. Caerdydd : Gwasg Prifysgol Cymru, 1941
  • Thomas Jones (gol.), Brut y Tywysogyon : or The chronicle of the princes : Red Book of Hergest version. Cardiff, 1955
  • G. & T. M. Charles Edwards, 'The continuation of Brut y Tywysogion in Peniarth 20' in T. Jones & E. B. Fryde (eds), Essays and Poems Presented to Daniel Huws. Aberystwyth, 1994, 293-305
  • Thomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec, sef cyfieithiad Cymraeg Canol o'r 'Promptuarium Bibliae'. Caerdydd, 1940
  • Thomas Jones, Brut y Tywysogion. Caerdydd, 1953
  • G. J. Williams a E. J. Jones, Gramadegau'r Penceirddiaid. Caerdydd, 1934