Llawysgrifau Mostyn: Arddangosfa'r Canmlwyddiant

30 Mehefin 2018 - 8 Rhagfyr 2018

Hengwrt

Daeth y llawysgrifau cyntaf o Blasty Mostyn, Sir y Fflint i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1918 ac i nodi canmlwyddiant y derbyniad nodedig hwn, mae'r arddangosfa hon yn dangos rhai o drysorau pwysicaf Mostyn yng nghasgliadau'r Llyfrgell. Mae'r trysorau hyn yn cynnwys Cronicl Elis Gruffudd a restrwyd yn ddiweddar fel eitem o bwysigrwydd rhyngwladol yng Nghofrestr Cof y Byd y DU UNESCO - a gwaith y naturiaethwr Thomas Pennant, a oedd yn byw yn Downing ger Mostyn.

Mae eitemau sydd ar fenthyg o Blasty Mostyn o arwyddocâd hanesyddol, megis comisiwn gwreiddiol 1567, a roddwyd dan awdurdod y Frenhines Elizabeth I, gan gyfarwyddo William Mostyn i drefnu eisteddfod yng Nghaerwys, a'r delyn arian - y wobr eisteddfodol gynharaf sydd wedi goroesi.

Dathlir hefyd yr arlunydd dyfrlliw a'r ysgythrwr Moses Griffith, a deithiodd gyda Pennant fel darlunydd yn ystod ei deithiau niferus o gwmpas Cymru a'r Alban, ac a oedd yn byw yng Ngwibnant ger Mostyn.

Dyma gyfle prin i weld trysorau o un o'r casgliadau preifat gorau erioed i’w lunio yng Nghymru.

Dolenni perthnasol

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?