Symud i'r prif gynnwys

Mae hen bapurau newydd yn adnodd cyfoethog iawn i haneswyr teulu; cyhoeddwyd y cyntaf sef The Cambrian yn 1804 yn Abertawe, ac fe'i dilynwyd yn fuan wedyn gan nifer eraill drwy Gymru gyfan. Y papur newydd dyddiol cyntaf i'w gyhoeddi oedd The Cambrian Daily Leader yn 1861.

Mae'r Llyfrgell wedi digido dros 1 miliwn o dudalennau papurau newydd sydd allan o hawlfraint ac sydd wedi eu cyhoeddi yng Nghymru hyd at 1911; mae'r rhain ar gael i'w chwilio a gweld arlein yn rhad ac am ddim.

Mae'r canlynol yn enghreifftiau o be allwch ddod o hyd iddo ymhlith tudalennau papurau newydd hanesyddol:

  • Cyhoeddiadau geni, priodi a marw
  • Adroddiadau bedyddiadau a phriodi
  • Hanes angladdau
  • Adroddiadau ar newyddion a digwyddiadau lleol
  • Adroddiadau damweiniau
  • Cwest crwner
  • Adroddiadau troseddol
  • Adroddiadau ar ddigwyddiadau hanesyddol

Mynediad