Symud i'r prif gynnwys

Cysylltwch â’n hadran gwasanaethau ymwelwyr drwy ffonio 01970 632801 neu drwy e-bostio gwas-ymwelwyr@llgc.org.uk yn y man cyntaf i sicrhau bod y dyddiad(au) sydd gennych mewn golwg ar gael.

Ystafelloedd i’w llogi

Ystafell y Cyngor

  • Ystafell urddasol â golygfeydd dros Fae Ceredigion
  • Lle i hyd at 60 eistedd
  • 2 lifft o fewn cyrraedd hawdd
  • Gellir archebu bwyd a diodydd i’w gweini yn yr ystafell ymlaen llaw- gweler ein tudalen Arlwyo os gwelwch yn dda

Ystafell y Llywydd

  • Ystafell foethus â digonedd o olau dydd diolch i'w dwy ffenest fawr, ill dwy â golygfeydd hyfryd
  • Lle i hyd at 8 eistedd mewn steil pwyllgor
  • Lifft o fewn cyrraedd hawdd

Drwm

  • Awditoriwm aml-gyfrwng
  • Lle i hyd at 96 eistedd
  • Pris llogi yn cynnwys defnydd o’r adnoddau technegol safonol sef taflunydd data, sgrîn a gliniadur
  • Wedi’i lleoli ar y llawr gwaelod ac yn gwbl hygyrch
  • Gellir archebu bwyd a diodydd i’w gweini yn yr atriwm cyfagos ymlaen llaw- gweler ein tudalen Arlwyo os gwelwch yn dda

Manteision eraill dros ddewis LlGC

  • Adeilad a chyfleusterau hygyrch
  • Maes parcio talu ac arddangos ar y safle
  • Mynediad am ddim i arddangosfeydd y Llyfrgell
  • Estynnir croeso i deuluoedd â phlant
  • Golygfeydd ysblennydd a staff cyfeillgar
  • Caffi a Siop lyfrau ac anrhegion ar y safle
  • Wifi am ddim
  • Teithiau tu ôl i’r llen ar gais yn ddibynnol ar argaeledd (cysyllter am ragor o wybodaeth)

Telerau ac Amodau

Darllenwch ein telerau ac amodau yn ofalus os gwelwch yn dda cyn archebu.

Mwy o wybodaeth

Cysylltwch â ni drwy ffonio 01970 632801 neu drwy e-bostio gwas-ymwelwyr@llgc.org.uk

Dolenni perthnasol