Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: Llyfr lluniadu LlGC 53

Lluniwyd y gyfrol hon gan Eliza Pughe, Coch y big, Clynnog a oedd tua 12 oed ar y pryd. Dywed y nodyn bywgraffiadol y tu mewn i'r gyfrol iddi gael ei geni tua 1831 a marw tua 1850 a'i bod yn fyddar. Mae'n bosib iddi dderbyn ei haddysg yn y cartref gan na ddatblygwyd sustem swyddogol ar gyfer addysgu plant byddar tan yr 1890au, ond tystia'r gyfrol hon i ymdrechion rhywrai i addysgu Eliza Pughe.

Gwelodd dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg nifer o ddatblygiadau pwysig mewn addysg i'r byddar ac mae'n bosib fod y gyfrol hon yn dangos dylanwad hynny. Yn 1817 sefydlodd yr Americanwr Thomas Hopkins Gallaudet (1787-1851) ysgol arloesol a dylanwadol i'r byddar yn y Taleithiau Unedig. Roedd yntau'n gweithredu o dan ddylanwad nifer o arloeswyr gan gynnwys yr Albanwr, Thomas Braidwood (1715-1806) a oedd wedi sefydlu ysgol i'r byddar yng Nghaeredin yn 1760.

Cyfres o ddarluniau a geir yn y gyfrol i gyd-fynd â geiriau pob dydd. Yn ddiddorol iawn yn aml ceir y term Saesneg a'r term Cymraeg o dan y llun. Dywed nodyn y tu mewn i'r clawr i'r gyfrol gael ei rhwymo gan Eben Fardd (Ebenezer Thomas 1802-1863).