Lluniau Cerddoriaeth

Dyma enghreifftiau o’r lluniau sydd gennym:

  • ffotograffau o gerddorion fel Joseph Parry a Phencerdd Gwalia ynghyd â ffotograffau o gorau a bandiau
  • portreadau mewn olew o gantorion fel Syr Geraint Evans, Bryn Terfel, Adelina Patti
  • lluniau trawiadol fel y llun o’r cwpan addurnedig a enillodd Côr Caradog yn y Palas Grisial yn 1872 ac 1873. Dyma’r adeg y dechreuwyd galw Cymru yn ‘Wlad y Gân’
  • posteri cyngherddau a digwyddiadau cerddorol e.e. cyngherddau pop

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?