Symud i'r prif gynnwys

Pwysigrwydd catalogau arwerthiant ar gyfer ymchwil

Mae llawer o’r eitemau hwn wedi dod i’r Llyfrgell ymysg papurau cyfreithwyr ac arwerthwyr. Gwerth dros dro yn unig sydd i gatalogau arwerthiant ac yn aml byddent yn cael eu gwaredu yn dilyn arwerthiant. Mae’r Llyfrgell yn ffodus bod ganddi gasgliad mor amrywiol o’r cyhoeddiadau hyn yn ei meddiant.

Mae catalogau arwerthiant o werth hanesyddol mawr gan eu bod yn darparu disgrifiadau a chynlluniau manwl o eiddo a sut roeddent yn cael eu rhannu yn wahanol gyfrannau ar gyfer eu gwerthu. Maent yn parhau i fod yn ffynhonnell berthnasol ar gyfer gwybodaeth am ffiniau heddiw; er, fel gyda phob map, dylai defnyddwyr drin unrhyw wybodaeth maent yn ei ddarparu ynghylch ffiniau yn ofalus.

Mae llawer o’r deunydd yn ymwneud â gwerthiant ffermydd a thyddynnod unigol; fodd bynnag, mae yna hefyd gatalogau ar gyfer gwerthiant ystadau mawr. Mae’r casgliad yn darparu ffynhonnell bwysig o wybodaeth ar gyfer rhai sy’n astudio diddymiad yr ystadau mawrion yn y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif.

Mae rhai o’r catalogau nid yn unig yn manylu ynghylch ffiniau eiddo, ond hefyd yn rhoi manylion am yr adeiladau eu hunain, gan ddarparu gwybodaeth bensaernïol bwysig. Yn ogystal, ceir hyd yn oed manylion ynghylch dodrefn y tai yn rhai o’r catalogau, ac weithiau beiriannau ac offer fferm a oedd hefyd ar werth. Unwaith eto mae hyn yn eu gwneud yn ddogfennau pwysig ar gyfer rhai sy’n astudio hanes cymdeithasol.

Y casgliad catalogau arwerthiant

Mae’r casgliad yn cynnwys dros 4000 o gatalogau, sy’n cael eu cadw yn bennaf yn ôl siroedd (hanesyddol). Sir Gaerfyrddin a Morgannwg yw’r siroedd sy’n cael eu cynrychioli fwyaf gyda thros 500 o gatalogau yr un.

Gellir gweld y catalogau arwerthiant ar Brif Gatalog y Llyfrgell. Mae mynegai wedi ei greu ar gyfer yr eiddo a’r ystadau unigol ac mae’r mapiau sy’n dod gyda hwy wedi eu catalogio’n unigol.