Symud i'r prif gynnwys

Cynnwys y casgliad mapiau

Mae’r Llyfrgell yn ceisio casglu unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys Cymru neu sy’n cael ei gynhyrchu gan wneuthurwyr mapiau Cymreig. Mae yna hefyd ddiddordeb arbennig yng ngweddill Ynysoedd Prydain ac yn y rhannau hynny o’r Byd gyda chysylltiadau Cymreig neu Geltaidd, er enghraifft Llydaw a Phatagonia. Tra bo’r Llyfrgell yn canolbwyntio ar gasglu deunydd Cymreig, mae wastad wedi bod yn nod i sichrau ymdriniaeth fanwl o’r Byd i gyd, cyn belled ag y bo modd.

Trwy gyfrwng Adnau Cyfreithiol, mae gan y Llyfrgell yr hawl i dderbyn copi o bob map ac atlas printiedig a gyhoeddir yn Ynysoedd Prydain. Mae newidiadau diweddar i’r gyfraith yn golygu y bydd hyn yn cael ei ymestyn maes o law i gynnwys mapiau electronig yn ogystal, gan gynnwys data sy’n cael ei greu mewn Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS).

Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys nifer fawr o ddeunydd a gyflwynwyd i’r Llyfrgell, neu a brynwyd  gan y Llyfrgell. Mae’r deunydd hwn yn bennaf yn cynnwys deunydd llawysgrif, deunydd printiedig hynafiaethol a mapiau modern a gyhoeddwyd dramor.

Yn ogystal â chasglu mapiau topograffig (mapiau sy’n dangos y tirlun) mae’r Llyfrgell hefyd yn casglu mapiau thematig (er enghraifft mapiau daearegol a mapiau at ddefnydd tir).

Mae’r casgliad yn cynnwys mapiau a chynlluniau ar sawl graddfa wahanol o ddalennau sengl sy’n cynnwys y Byd i gyd, i ddarluniadau peirianneg a chynlluniau pensaernïol manwl.

Rhennir y casgliad i sawl categori gwahanol o ddeunyddiau, a gellir canfod mwy o wybodaeth am rai o’r rhain drwy ddilyn y dolenni yn y golofn chwith. Yn ogystal, mae’r dudalen ‘Dolenni Mapiau Allanol’ yn darparu cysylltiadau i adnoddau allanol.


Defnyddio’r casgliad

Mae’r rhan fwyaf o’r casgliad mapiau wedi ei gatalogio a gellir ei ganfod yng Nghatalog y Llyfrgell.

Gellir archebu eitemau o’r catalog ar gyfer eu gweld yn yr Ystafell Ddarllen; ac yma hefyd mae rhai  mapiau ar gael ar fynediad agored, yn ogystal â chasgliad o gyfeirlyfrau a rhai atlasau. 

Mae’r rhan fwyaf o’r casgliad ar gael i’w astudio er bod trefn arbennig ar waith i’r rheiny sy’n dymuno edrych ar atlasau hynafiaethol; dim ond un cyfrol y gellir ei gweld ar y tro, ac mae’n bosib y bydd y Llyfrgell yn darparu ‘surrogate’ yn hytrach na’r gwreiddiol. Mae’n rhaid i ddarllenwyr sy’n dymuno gweld atlasau a gyhoeddwyd cyn 1800 gwblhau ffurflen sydd ar gael yn yr Ystafell Ddarllen.

Mae rhai setiau o fapiau wedi eu catalogio fel eitem sengl yn hytrach na dalen wrth ddalen ac mae’n rhaid nodi pa ddalennau unigol sydd eu hangen pan yn archebu. Mae mynegai mapiau ar gael ar gyfer nifer o’r setiau yma, ac maent wedi eu marcio i ddangos pa ddalennau sydd yn y casgliad.