William Harwood

Ganed William Harwood yn Stalybridge ac fe’i maged gerllaw yn Dukinfield. Bu’r teulu’n byw yn 29 Kay Street am dros ugain mlynedd. Maged Harwood a’i dair chwaer gan eu mam, gan fod eu tad, Daniel Harwood wedi marw pan oedd William yn fachgen ifanc. Ar ôl gadael yr ysgol bu’n gweithio fel Cynorthwyydd Llyfrgell ac yna’n ddiweddarach fel gwerthwr i gwmni ffotograffiaeth. Symudodd ef a’i deulu, (ei wraig Bertha, ei ferched Edith a Margaret) i Gricieth yn 1925, gan agor siop Deganau a Mân Bethau. Yn ffenestr y siop, yng nghanol y bwcedi, y rhawiau, teganau tunplat a’r ornaments tsieina roedd cardiau post o ansawdd uchel yn dangos lluniau o olygfeydd a digwyddiadau lleol yn ardal Cricieth. Roedd yn frwd am ffotograffiaeth ac am ei luniau y mae'n cael ei gofio. Roedd y rhain yn amrywio o stormydd eira, erydu arfordirol, treialon cŵn defaid a’r enwogion lleol - teulu Lloyd George. Yn ddaearyddol roedd y lluniau ar ei gardiau post wedi eu tynnu o fewn ardal gyfyngedig, o Afon Wen yn y gorllewin i Forfa Bychan yn y dwyrain. Cynhyrchodd Harwood y cardiau hyn trwy ddefnyddio Camera â phlât Goertz yn ogystal â defnyddio modelau hanner-plât a chwarter-plât. Cynhyrchwyd ei gardiau o 1926 nes iddo ymddeol yn 1958. Ni chyflogid unrhyw un arall gan y teulu a châi’r holl waith o brosesu platiau Harwood ei wneud yn y llawr isaf.  
Prynwyd y negatifau ar gyfer nifer o’i gardiau a’i ffotograffau eraill gan y Llyfrgell yn 1974. Mae pob un ohonynt wedi eu printio’n ofalus ar bapur maint A4 a’u rhwymo mewn cyfrolau o tua 100 o brintiau. Mae’r rhain wedi eu rhifo’n llyfrau ffoto 1577-1588.
Er bod ei gardiau post wedi eu cyfyngu i ardal ddaearyddol gul mae ei negatifau’n darlunio ardal llawer ehangach yn cynnwys Aberystwyth, Llanfair Talhaearn, Dolbenmaen, Caernarfon, Prestatyn, Rhyl a chefn gwlad Swydd Gaer i enwi dim ond rhai. Hefyd roedd ganddo stiwdio bortreadau ar un adeg.  

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?