Casgliad Cenedlaethol Ffotograffau Cymreig

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dal dros 950,000 o ffotograffau sy’n gysylltiedig â Chymru. Mae’r rhain yn amrywio o weithiau gan ffotograffwyr arloesol o ddyddiau cynharaf ffotograffiaeth i sawl portffolio gan ymarferwyr cyfoes y gelfyddyd.

Delweddau sy’n gysylltiedig â Chymru a geir yn y casgliad yn bennaf. Yn eu plith mae golygfeydd o Gymru, gwaith ffotograffwyr o Gymru a ffotograffau o gymeriadau Cymreig.

Ddwy flynedd wedi dyfeisio ffotograffiaeth fe wnaeth y Parch Calvert Richard Jones dynnu’r llun ffotograff cynharaf a gofnodwyd yng Nghymru. Tynnwyd ef ar y 9fed o Fawrth 1841, ac mae’n ddaguerroteip o Gastell Margam, tŷ ei gyfaill cefnog Christopher Rice Mansel Talbot.

Roedd y Parchedig Calvert Richard Jones yn un o gylch o ffotograffwyr cynnar yn Abertawe. Roedd y cylch hwn yn troi o amgylch y diwydiannwr goleuedig John Dillwyn Llewelyn o Benlle’r-gaer.

Dyfeisiodd William Henry Fox Talbot broses ffotograffig arall a oedd, yn y pen draw yn fwy llwyddiannus. Gan ddefnyddio negatifs papur, roedd proses Talbot yn caniatáu i gopïau lluosog o ddelweddau gael eu gwneud.

Roedd Talbot yn gefnder i Emma, gwraig John Dillwyn Llewelyn. Trwy’r cysylltiad hwn daeth John Dillwyn Llewelyn a’i deulu yn arloeswyr cynnar ffotograffiaeth yn ystod yr 1840au a 1850au – gweler Ffotograffiaeth Gynnar Abertawe

Cartes de visite

Erbyn diwedd yr 1850au roedd ffotograffiaeth wedi cyrraedd y stryd fawr, ac roedd stiwdios ffotograffwyr yn gyffredin yn y rhan fwyaf o drefi a dinasoedd. Roedd y rhan fwyaf o bobl yn dewis cael eu llun wedi ei roi ar ddarn o gerdyn, o’r enw cartes de visite. Byddai’r rhain yn cael eu cyfnewid gyda ffrindiau a pherthnasau a daethant i fod yn boblogaidd iawn. Mae gan y Llyfrgell nifer o enghreifftiau o’r rhain gan amrywiaeth o ffotograffwyr.

Dechreuodd John Thomas yn gwerthu cartes des visite o enwogion Cymreig y dydd. Byddai hefyd yn tynnu ffotograffau o bobl gyffredin, yn aml wrth eu gwaith. Cofir amdano fwyaf  heddiw am ei olygfeydd topograffig. Mae rhyw 3,000 o ffotograffau John Thomas i’w gweld ar ein gwefan.

Roedd John Thomas yn herio gwaith ffotograffwyr megis Francis Frith a James Valentine a oedd yn portreadu golygfeydd hardd Cymru. Mae’r Casgliad Cenedlaethol o Ffotograffau Cymreig yn cynnwys dros 35,000 o olygfeydd gan Francis Frith.

Wrth i’r 19eg fynd yn ei blaen ehangodd ffotograffiaeth yn ei apêl. Yn raddol, daeth datblygiadau technolegol â ffotograffiaeth o fewn cyrraedd pob un o’r dosbarthiadau cymdeithasol, a daeth y ciplun i amlygrwydd, megis yr olygfa hon o ymdrochwyr yn Aberaeron gan J Glyn Davies.

Roedd ffotograffwyr lleol ar y stryd fawr mor boblogaidd ag erioed ac mae gwaith D C Harries o Landeilo, P B Abery o Lanelwedd, William Harwood o Gricieth ac Arthur Lewis o Aberystwyth i gyd yn cael eu cynrychioli yn y casgliad.

Geoff Charles

Y casgliad unigol mwyaf sydd yn y Llyfrgell yw casgliad Geoff Charles, ffotonewyddiadurwr gyda Phapurau Newydd Gogledd Cymru am 50 mlynedd. Gweithiodd Geoff Charles ledled gogledd a chanolbarth Cymru o ddiwedd y 1930au ymlaen. Mae llawer o gasgliad Geoff Charles wedi cael ei ddigideiddio bellach, ac i’w weld ar ein gwefan.

Cafodd llawer o’r deunydd yn y Casgliad Cenedlaethol o Ffotograffau Cymreig ei roi i’r Llyfrgell. Yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi derbyn casgliadau pwysig gan y Cambrian News, Teledu Harlech, Hyder, S4C, a Bwrdd Croeso Cymru.

Yn ogystal mae’r Llyfrgell yn parhau i brynu gweithiau perthnasol gan ffotograffwyr cyfoes.

Dolenni perthnasol

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?